Tudalen:Aildrefniad Cymdeithas.pdf/26

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Y SEREN UNIG.

Seren unig—seren dlos,
Addurn wyt i'r dywell nos,
Unig ar dy ben dy hun—
Denol yw dy landeg lun;
Er i ser sydd fwy na thi
Gilio draw, a'n gadael ni,
Dal i oleu wnei o hyd—
Dal i wenu ar y byd:
Dysg i minau, seren dlos,
Ganu yn y dywell nos.

Y GWLITHYN.

WLITHYN gloyw—wlithyn bychan,
Blentyn tlws y wawr a'r nos;
Harddach wyt na thlws o arian,
Dan yr haul, ar fron y rhos;
O nad allet ymddysgleirio
Ar y rhosyn bach o hyd,
Ond yr haul a tyn dy gario
Adref i addurno'i bryd:
Ond cyn myned, dysg i mi
Ymddysgleirio, ac addurno
Oriau 'mywyd, fel tydi.

YR ALARCH.

Brenin y llyn yw'r alarch gwyn,
Mae'n harddu'r dwfr o dano;
Nid oes yr un mor hardd ei lun,
Pan ar y llyn yn nofio,
Nofia'n gry' ar y gloyw li',
Gan edrych ar ei ddelw,
Yn falch o'i hun, wrth wel'd ei lun
Yn nrych y dyfroedd gloyw:
Felly dyn,
Wrth wel'd ei lun
Yn nrych ei fywyd gwyn,.
All lawenhau,
Ac ymfawrhau,
Fel alarch ar y llyn.