Tudalen:Aildrefniad Cymdeithas.pdf/28

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Y WENYNEN.

GWENYNEN fach yr ha', o flodyn i flodyn yr a
I gasglu mel, ac yn ol ni ddel
Nes cael y mel fwynha;
Dan ganu trydd i'w thaith-
Dan ganu gwnaiff ei gwaith,
A than ei llwyth, ei dyddiol ffrwyth,
Ni pheidia ganu chwaith;
A chanu bydd ar hwyr y dydd
Ar ol ei llafur maith.
Megys y wenynen fach,
Dan ganu gweithiwn ninau,
Felly byddwn gryf ac iach,
A dedwydd dan ein beichiau,


Y CWMWL.

Y CWMWL du, sy'n hofian fry,
Fel cysgod edyn angau;
Pelydrau cry' yr haulwen gu,
Ni threiddiant drwy'i blygiadau;
Edrycha draw, fel byd o fraw
Ar ddisgyn ar y ddaear,
Ond cynar wlaw o'i fynwes ddaw,
I faethu'r egin cynar;
Ac felly gorthrymderau,
Er dued yw eu gwedd,
Adawant ar eu holau,
Yn aml, fwynhad a hedd.


Y BORE NIWLIOG.

Cyfodai'r bore'n brudd,
A dagrau ar ei rudd, o wely'r nos ;
Ond erbyn haner dydd,
Fe wnaeth yr haulwen rydd ei ruddiau fel y rhos;
Ac yn yr hwyr, uwch caerau'r nen,
Dan wenu, gwyrodd lawr ei ben
I gysgu hun, ar fynwes wen y Lleuad dlos ;
Ac felly, llawer oes
Yn myd y boen a'r gwaeledd,
Er dechreu gyda loes,
Ddiwedda mewn gorfoledd.