Tudalen:Aildrefniad Cymdeithas.pdf/9

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

dan yr enw cyflog. Beth mae y glowyr, a'r amaethwyr, a'r crefft wyr yn ei wneud? Enill golud i'w meistriaid. Ac y mae llawer o honynt, hwyrach yr oll o honynt y dydd heddyw, yn Nghymru yn tybio eu bod yn cael eu cadw gan eu meistriaid-ond camgymeriad dirfawr ydyw hyny, y gweithwyr sydd yn cadw eu meistriaid. Yn holl gylch gwybodaeth nid oes un ffaith eglurach na bod holl fawrion y byd yn byw ar lafur y gweithwyr, ac nad yw y rhan fwyaf o'u golud yn ddim amgen na ffrwyth llafur heb dalu am dano. Pe derbyniai y llafurwr werth ei lafur, ni byddai y meistr ddimau mewn oes yn gyfoethocach am ei gyflogi. Prif ffynonell golud i'r meistr oddiwrth ei weithwyr, ydyw llafur rhad-llafur heb dalu dim am dano. Wel, mae y drefn sydd yn gwneud pethau fel hyn yn bosibl, yn drefn anghyfiawn, ac ar y drefn y mae y bai yn gorphwys, ac nid ar bersonau a ddygwyd i fynu o dani.

Mae lluaws o bethau eraill ac y gellid eu dwyn i ystyriaeth yn erbyn y drefn anrhefnus bresenol, ond rhaid eu gadael, a symud yn mlaen i wneud ychydig o sylwadau byrion ar yr ail-drefnu, oblegid dyna ydyw y rhan bwysicaf or testun.

Y sylw cyntaf ydyw fod miloedd o wyr doethaf a dysgedicaf y byd yn cydnabod fod rhywbeth mawr allan o le mewn cymdeithas fel y mae, a bod cyfnewidiadau a diwygiadau mawrion yn angenrheidiol cyn y bydd pethau fel y dylent fod. Mae cynhyrfu am gyfnewidiad yn mhob man drwy yr holl fyd gwareiddiedig. Yr ydym ninau fel Cymry yn dechrau ymwingo ychydig ac yn gadael i'r byd wybod ein bod yn teimlo nad yw pob peth yn iawn yn y drefn bresenol, ag y mae y cynhyrffadau hyn am ddiwygiadau, yn gydnabyddiaeth gyhoeddus o'n hargyhoeddiad fod eisiau newid y drefn. Y diwygiadau y cynhyrfir am danynt gan y Cymry ydynt y rhai canlynol:-Dadgysylltiad a dadwaddoliad yr Eglwys Wladol; diwygiad yn neddfau y tir; addysg