JOHN GRIFFITHS, HITCHIN.
AE defnyddiau hanes y John Griffiths hwn, hyd yma, yn lled brin. Yr oedd yn enedigol o'r Ynys Fawr, plwyf Llandysilio, swydd Benfro. Dywedir mai ei riaint oeddynt Thomas a Catherine Griffiths. Pa un a oeddynt o'r un tylwyth a Griffithsiaid Castellgarw, nid oes sicrwydd, er y barna rhai eu bod yn berthynasau agos. Yr oedd y Parch. John Griffiths, Glandwr, yn fab i Roger Griffiths, Castellgarw, plwyf Llanglydwen, a una à phlwyf Llandysilio, er fod yr olaf yn swydd Gaerfyrddin. Yr oedd y ddau John Griffiths yn gyfeillion mawr, ac yn gydaelodau yn Nglandwr, wedi eu derbyn gan y Parch. John Davies, Cilast, gweinidog Glandwr ar y pryd. Ganwyd y Parch. John Griffiths, Glandwr, tua'r flwyddyn 1731. Yr oedd y ddau John Griffiths tua'r un oed, neu yn agos felly. Tebyg i'r ddau fod yn yfed o ffrydiau dysg yn ysgol y Parch. Tasker, offeiriad yn Hwlffordd. Aeth y ddau i gyfefrydu í Athrofa Caerfyrddin, ac yr oeddynt yn ddau o'r pedwar anfonasant eu cais at y Bwrdd yn Llundain am dderbyniad i'r Fenni, ar gychwyniad yr Athrofa hono, a derbyniwyd hwynt. Dychwelodd y ddau yr un amser o'r Fenni; ac ar gais eglwys Glandwr, bu y ddau yno am dymhor ar brawf. Yr oedd gan y ddau eu pleidwyr yn yr eglwys; ond trodd y fantol, trwy y mwyafrif o un, o blaid John Griffiths, Castellgarw. Tebyg i'w urddiad ef gymeryd lle tua'r flwyddyn 1760. Aeth John Griffiths, Ynys Fawr, i'r weinidogaeth yn Lloegr. Dywed traddodiad yn mysg yr achau iddo fod yn gweinidogaethu yn Llundain. Mae hyn yn ansicr, os nid yn anhebyg. Yr ydys wedi cael allan yn ddiweddar i un John Griffiths fod yn gweinidogaethu yn Hinckley, yn swydd Leicester, ac iddo symud oddiyno i Hitchin, yn swydd Hertford, a sefydlodd yno yn Medi, 1779. Cyfetyb hyn yn agos i'r amseriad y gellid dysgwyl iddo wneyd felly, wedi aros yn Hinckley tua saith neu wyth mlynedd. Bu mab iddo farw yn Hitchin, o'r hwn yr oedd yn anwyl iawn, ac effeithiodd yr amgylchiad yn ddwys arno. Yr oedd yn gateceisiwr yn "Nghatecism y Gymanfa," yr hyn oedd J. Griffiths, Glandwr. Cedwid cwrdd ymostyngiad yn amser hau, i weddio am dywydd teg; a chwrdd diolchgarwch ar ddiwedd cynhauaf, yr hyn a wneid yn eglwys Glandwr a'r cylch. Bu farw yn 1795. Mae yr amseriad a'r nodweddion hyn yn myned yn mhell iawn, ac yn agos at sicrwydd, i brofi mai dyma John Griffiths yr Ynys Fawr. Cefnder iddo ef oedd y Griffiths fu yn weinidog yn Bromyard a Wednesbury. Mab i gefnder arall iddo oedd y Parch. Daniel Griffiths, Alton, Hants, wedi hyny yn Long Buckby, swydd Northampton, fu farw yn 1824: mab yr hwn yw y Parch. Daniel Griffiths, Tettenhall, sydd wedi ymneillduo o'r weinidogaeth ar gyfrif henaint—eto yn fyw.
March, Cambs.CLWYDWENFRO.
THOMAS GRAY, ABERMEURIG.
GENEDIGOL O Dreforis, ger Abertawe, oedd Thomas Gray, ac yn ei ieuenctid yr oedd yn wyllt ac annuwiol iawn. Cafodd ei achub megys o'r tân, a hyn mewn ffordd ryfedd. Glowr ydoedd wrth ei alwedigaeth. Un prydnawn ceisiodd goruchwyliwr y gwaith gan Thomas i fyned yn foreu dranoeth ar neges drosto i Gastellnedd; aeth yn ol y cais. A'r boreu hwnw, pan oedd yn Nghastellnedd, bu damwain angeuol yn y pwll lle y gweithiai, pryd y lladdwyd amryw o'r gweithwyr. Pan oedd yn dychwelyd yn feddw, cyfarfyddodd å dyn yn d'od o Dreforis, yr hwn a ddywedodd mewn braw pan welodd ef Gray ar y ffordd: "Twm Gray, y mae'n syn genyf dy weled di yn y fan hon; yr oeddwn yn meddwl dy fod yn y gwaith boreu heddyw, ac wedi cael dy ladd, a dy fod yn uffern;" ac adroddodd y dyn yr hanes blin am y ddam- wain. Sobrodd Gray yn y fan, a sobrodd yn iawn: sobrodd i beidio meddwi byth ar ol hyn. Gadawodd ei hen arferion, ac aeth yn gyson i foddion gras. Derbyniwyd ef yn aelod yn Mynyddbach. Yn fuan anog wyd ef i ddechreu pregethu, a rhoddodd foddlonrwydd i eglwys Mynyddbach ei fod yn ysbryd y gwaith.
Hydref 3ydd, 1757, derbyniwyd ef i'r Athrofa yn y Fenni. Wedi gorphen ei amser yn yr Athrofa, cafodd alwad i fyned yn olynydd i'r enwog Phillip Pugh yn Abermeurig, Yn fuan ar ol ei urddiad yno, daeth i adnabyddiaeth ac i gyfeillgarwch mawr a'r Parch. Daniel Rowlands, Llangeitho, a buont byw yn gyfeillion anwyl iawn o'u gilydd nes i angeu eu rhanu.
Yr oedd Mr. Gray yn hoffi dull teithiol y Trefnyddion; ac yr oedd ef yn aml yn pregethu gyda hwynt, a'u gweinidogion hwythau yn aml yn nghapeli Mr. Gray: ac fel hyn yr oedd yr eglwysi dan ei ofal yn fwy cyfarwydd a gweinidogion y Methodistiaid nag â gweinidogion yr Annibynwyr; ac felly fe aeth yr eglwysi hyn drosodd at y Trefnyddion. Pregethai yn effeithiol iawn weithiau. Dywedai Jones, Llangan, mai rhyw fangrel oedd Mr. Gray—nad oedd na Methodist nac Annibynwr. Gwnaeth wasanaeth mawr yn ngwinllan ei Arglwydd. Bu farw yn y flwyddyn 1810.
Brynteg.J. STEPHENS