Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Album Aberhonddu.djvu/244

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Yr oedd ei iechyd wedi ei aumharu er's rhai blynyddoedd, a rhoddodd ei ofal gweinidogaethol yn Llanbrynmair i fyny yn Medi, 1896, a symudodd i fyw i Gasnewydd, lle genedigol Mrs. Davies. Ni allodd bregethu byth wed'yn, a bu farw yn lled ddisymwth o ddolur y galon ar y 26ain o Dachwedd, 1897, yn 60 mlwydd oed, gan adael gweddw a dwy ferch i alaru ar ei ol. Claddwyd ef yn Nghladdfa Gyhoeddus Casnewydd, Rhagfyr 1af, 1897.

Resolven.—D. G. MORGAN.

LEWIS PROBERT, D.D., PENTRE.

SAIF Dr. Probert yn rhestr flaenaf gweinidogion a phregethwyr y genedl. Cyferfydd ynddo yr aruchel a'r syml, y cadarn a'r tyner, y treiddgar a'r diniwed, yr athronydd a'r plentyn y duwinydd a'r bardd, y pregethwr a'r bugail. Cydnabyddir yn rhwydd nad oes yn yr iaith ragorach Esboniadaeth na'r eiddo ef ar yr Epistol at y Rhufeiniaid, yr Epistol at yr

Ephesiaid, a'r Llythyrau at y Saith Eglwys yn Asia. Cyfoethogir y Beirniad, y Geninen, y Diwygiwr, a'r Dysgedydd â'i ysgrifau galluog ar wahanol bynciau. Ond y pwlpud yw ei orsedd. Ceir ef yma ar ei oreu. Pwy a'i gwrandawodd yn traddodi pregeth Undeb yr Annibynwyr Cymreig yn y Cyfarfod Blynyddol yn Llandeilo fedr anghofio byth y dylanwad anorchfygol pan yr anerchai yr Hen Lyfr mewn angerddoldeb teimlad, gan ddywedyd: "Bedd i ti? Na, caiff pawb feddau cyn y cei di fedd." Y mae ei gymdeithas yn ddyrchafol. Teifi berlau parhaus allan. Nid oes dihysbyddu ar ei adnoddau. Anhawdd peidio teimlo yn well ar ol bod yn ei gwmni. Daw o hyd i oreu ein natur yn bur fuan. Y mae eisoes wedi gwneyd diwrnod ardderchog o waith. Gellir dysgwyl blynyddau lawer o wasanaeth cyffelyb oddiwrtho eto. Ceir ef heddyw yn anterth ei nerth o ran corff a meddwl. Ganwyd ef Medi 22ain, 1841, yn Llanelli, Brycheiniog. Enwau ei rieni oeddynt Evan a Mary Probert. Bu iddo dri o frodyr. Claddwyd yr hynaf yn ddyn ieuanc, ond y mae y ddau arall yn aros y naill yn argraffydd a llyfrwerthwr yn Mlaenafon, Mynwy, a'r llall yn weinidog gyda'r Annibynwyr yn Oliphant, Pennsylvania. Breintiwyd ef yn moreu ei oes á gweinidogaeth y seraff-bregethwr y diweddar Barch. J. Davies, Caerdydd; ond o dan weinidogaeth y Parch. D. Richards (Caerphili yn bresenol), y derbyniwyd ef yn aelod crefyddol, yn y flwyddyn 1860. Dechreuodd bregethu ar gais yr eglwys yn y flwyddyn 1862. Derbyniwyd ef i Athrofa Aberhonddu yn haf 1863, ar ol addysg ragbarotoawl dan ofal y Parch. H. Oliver, B.A., Pontypridd.

Neillduwyd ef i waith y weinidogaeth yn Modringallt, Rhondda, yn Ngorphenaf, 1867. Cafwyd y dyn iawn i'r lle iawn. Yr oedd y Rhondda yn dechreu ymddadblygu o ddifrif ar y pryd. Y miloedd yn ymdyru tuag yno o bob parth. Chwyddodd poblogaeth plwyf Ystradfodwg o 1861 i 1871 0 3,000 i dros 16,000. Y mae heddyw tua 100,000. Yr oedd o'r pwysigrwydd mwyaf i gael arweinwyr dyogel yn y fath le ar y fath gyfnod, i roddí cyfeiriad iawn i'r cymydogaethau newyddion cyflymgynyddol. Cafwyd un o'r fath yn Dr. Probert. Bu yn flaenllaw iawn gyda chychwyniad achosion newyddion. chreuodd yn bur fuan yn y Pentre, mewn hen ysgubor roddwyd tuag at hyny gan un o'i ddiaconiaid presenol—D. Trebarne, Ysw. Yn mhen dwy flynedd, sefydlodd eglwys Saesoneg yn y Ton. Cynyddodd yr achos yn y Pentre mor fawr fel yr ymgyflwynodd yn hollol i ofalu am dano, ac y rhoddodd Bodringallt i fyny yn y flwyddyn 1872. Yn y flwyddyn 1873, dechreuodd yr achos yn Nghwmpare. Yn y flwyddyn 1874. symudodd i Borthmadog, yn olynydd i'r diweddar Barch. W. Ambrose. Yn mhen tua thair blynedd ar ol ei ymsefydliad yno, cododd achos newydd mewn cŵr arall o'r dref, ac adeiladwyd y Capel Coffadwriaethol yn gartref iddo, ar draul o dros 65,000. Tynwyd tua £4,000 o'r ddyled wrdd cyn ei ymadawiad a'r lle. Yn y flwyddyn 1886, symudodd yn ei ol i'r Pentre. Fel na ollyngwyd mohono o'r