DAVID EVANS, O'R DALE.
NIS gwyddom ond ychydig iawn am hwn. Yr oedd myfyriwr o'r enw yn Nghaerfyrddin yn 1768 a 1769. Mae'n bosibl mai yr un yw hwn; bu yn y Fenni i ddechreu, ac yna aeth i Gaerfyrddin. Ceir ef yn un o'r ddau le yn cael ei gynal gan y Bwrdd Cynulleidfaol yn 1762. Tueddir ni i'r farn mai yr un yw a David Evans, o'r Dale, yr hwn oedd enedigol o Gilfynwyr, sir Aberteifi, a'r hwn a anwyd yn 1740.—GOL.
JOSIAH THOMAS.
O 1762 hyd 1766, ceir ef yn fyfyriwr yn y Fenni. Dyna yr oll a wyddom am dano.—GOL.
RICHARD MORGAN, HENLLAN.
UN genedigol o blwyf Ystradgynlais, sir Frycheiniog, oedd. Ganwyd ef yn Ystrad- isaf, yn 1743. Ei rieni oeddynt aelodau yn Nghwmllynfell. Derbynwyd ef i Athrofa y Fenni yn 1765. Urddwyd ef yn Henllan yn 1769. Pregethwr rhagorol oedd: yr oedd ei bregethau yn fyr a chynwysfawr, ac yn cael eu traddodi gyda gwres a theimlad, ac yr oedd ireiddiwch {{mawr ar ei holl gyflawniadau. Cyrhaeddai cylch'ei weinidogaeth o Landilo i Fethlehem, ac o Lanboidy i Garfan; ond llafuriodd lawer y tuallan i gylch uniongyrchol ei weinidog aeth. Bu ef a Mr. Jones, Trelech, yn help {{mawr i eglwysi rhanau Seisonig sir Benfro. Dyn gwrol a gweithgar ydoedd, ac enillodd radd dda fel gweinidog-i Iesu Grist. Bu farw yn 1805, yn 62 oed.—GOL.
LEWIS HOPKINS, BROMYARD.
BRODOR o Forganwg oedd ef, ac aelod o eglwys y Cymer cyn iddo fyned i Athrofa y Fenni. Traddododd Mr. Hopkins ei bregeth gyntaf yn Bromyard, Tachwedd 5ed, 1767, ac urddwyd ef yno Medi sed, 1770. Priododd ferch i un o ddiaconiaid yr eglwys. Yn Bromyard y treuliodd ei holl fywyd gweinidogaethol, a bu farw mewn parch ac anrhydedd, Mai 1ofed, 1789, yn 54 mlwydd oed.—GOL.
DAVID JONES.
Ni fu ond blwyddyn yn y Fenni-1765. Dywed y Parch. Joshua Thomas yn ei "Hanes iddo ymuno â'r Bedyddwyr. Bu farw yn 1770.—GOL.
WILLIAM EVANS, KINGSBRIDGE A FORD.

BRODOR o sir Gaerfyrddin oedd ef. Wedi bod yn yr ysgol yn Lacharn, aeth i'r Athrofa yn y Fenni. Bu am ychydig amser yn Brentwood, Essex; a symudodd i Kingsbridge, yn swydd Devon, yn gynar yn 1770. Yn ychwanegol at Kingsbridge, cymerodd ofal yr eglwys yn Ford. Urddwyd Mr. Evans yn Ford yn 1774, ac yno y treuliodd ei oes lafurus. Bu farw Hydref 17eg, 1810.—GOL.
JOHN EADES, LLUNDAIN.
YN mynwent enwog Bunhill Fields, lle y gorwedd John Bunyan, Isaac Watts, Daniel Williams, Abraham Rees, a llu mawr of ffyddloniaid Anghydffurfiol—yn y Macphelah gysegredig hon, ceir careg fedd syml, ac arni y geiriau hyn: "Er cof am y Parch. John Eades, gweinidog yr Efengyl, yr hwn a fu farw Tachwedd 20fed, 1786, yn 59 mlwydd oed." Yr ydym yn dra sier mai hwn yw y John Eades fu yn fyfyriwr yn y Fenni o 1765 hyd 1768. Cawn ef yn weinidog llafurus yn Rendhan, Suffolk, yn 1771-79. Nid ydym wedi gallu olrhain ei gwrs gweinidogaethol, ond y mae yn amlwg ei fod yn rhywle yn nghymydogaeth y Brifddinas pan y terfynodd ei yrfa. Yr oedd, yn ol pob tystiolaeth, yn bregethwr bywiog a tharawiadol. Ysgrifenodd lyfr da iawn ar y "Weinidogaeth." —GOL.