THOMAS HOWELLS, FALMOUTH.
CAWN ef yn fyfyriwr o 1766 i 1769. Tua'r amser hyny, cawn hefyd ei fod yn pregethu ar brawf yn Falmouth. Yn ol Parliamentary Petition 1772-3, yr oedd yn weinidog yn Falmouth y flwyddyn hono. Methasom yn ein hymdrech i gael ei hanes o Falmouth.—GOL.
DANIEL LLOYD, DINBYCH.
Yr oedd efe yn enedigol o Droedrhiw. dalar. Derbyniwyd ef i Athrofa y Fenni yn mis Mawrth, 1766; urddwyd ef yn Ninbych, Chwefror, 1770. Rhif yr aelodau pan ddechreuodd Mr. Lloyd ei weinidogaeth oedd 13, a'r gwrandawyr yn 40. Yn 1790, yr oedd rhif yr aelodau wedi cynyddu i 60. Mae lluaws yn dwyn tystiolaeth fod Mr. Lloyd yn Gristion gloew, yn feddyliwr grymus, yn weinidog ffyddlawn, ac yn dra llwyddianus i enill pechaduriaid at Waredwr. Yr oedd mewn parch mawr gan gyfoethog a thlawd. Cadwai ysgol ddyddiol, a chyfranai addysg o radd uchel i'r ieuenctyd a ddeuent ato. Mae wedi gadael ei lyfrgell at wasanaeth y gweinidog, pwy bynag fyddo. Nid oes ynddi fawr o lyfrau gwerthfawr a defnyddiol; ond y mae yma rai o lyfrau ysgol y bechgyn, safle a chynwysiad pa rai sydd yn dangos fod Mr. Lloyd yn ddysgawdwr uchel yn yr oes hono. "Gadawodd yn ei ewyllys ddiweddaf bump o dai anedd yn y dref tuag at gynal y weinidogaeth yn y lle y bu ef yn weinidog, tra y pery y byd hwn." Gan fod y gledrffordd sydd yn myned ar hyd y dyffryn yn myned trwy ganol y tai, maent oll wedi eu gwerthu i'r Denbigh, Ruthin, and Corwen Railway Company am rent charge blynyddol, ond y mae y property mor ddyogel i'w amcan ag yr oedd yn wreiddiol. Yma y gorphenodd ei yrfa, Gorphenaf 13eg, 1800, yn 55 mlwydd oed. Claddwyd ef yn meddrod Mr. Jardine (gweinidog blaenorol yr eglwys, yr hwn a gladdwyd yn mynwent yr Eglwys Wen, yn ymyl y dref hon). Rhydd Mr. Jones, Amlwch, rai ffeithiau dyddorol am amser gweinidogaeth Mr. Lloyd:—
"Wedi iddo sefydlu yn y weinidogaeth, priododd un Anne Edwards, aelod o'r eglwys dan ei ofal, a merch i John Edwards, o Benisa'rdref, yr hon a fu yn ymgeledd gymhwys iddo am ei oes, ac yn weddw yn nhy y capel am rai blynyddau ar ol ei gladdu. Yr oedd yn ei ddyddiau ef Ysgotiaid a Saeson yn y gynulleidfa, ac yn aelodau o'r eglwys dan ei ofal. Byddai Mr. Lloyd yn cynal gwasanaeth Saesoneg o flaen yr un Cymraeg bob boreu Sabbath; ac weithiau yn y prydnawn hefyd. Yr wyf yn cofio hefyd filwyr Ysgotaidd dyfod i'r gwasanaeth Saesoneg; a byddai (Cavalry) a fu yn y dref dros amser yn yr olwg ar y capel, er yn ddyeithr, eto yn (oddieithr ychydig oedd yn deall Saesoneg hardd. Deuai y Cymry i mewn y boreu ac yn hoffi ei wrando) pan y byddai y Saeson yn myned allan. Yr oedd cynull eidfa Dinbych y pryd hyny yn fwy lluosog yn y boreu nag un adeg arall o'r dydd." Prif fai bywyd gweinidogaethol Mr. Lloyd oedd gormod o arafwch i symud gydag angenrheidiau yr oes. Yr oedd teimlad yr oes yn galw am fywyd a thân yn y weinidogaeth; ond cadwai efe at yr hen drefniadau oeraidd a difywyd; ac, mewn canlyniad, ciliodd llawer o'r prif aelodau; ymadwodd lluaws o'r gwrandawyr i fanau lle caffent weinidogaeth fywiog. a gwanychodd yr achos yn ddírfawr. Dywed Caledfryn, yr hwn a fagwyd yn Ninbych, ac sydd yn un o'r rhai addasaf yn Nghymru i roddi barn ar y pwnc, fel hyn: "Clywais pan oeddwn yn fachgen y byddai Thomas Edwards, o'r Nant, yn arfer gwrando yn y capel yma, ac iddo ddigio wrth Mr. Llwyd, y gweinidog, fel y gelwid ef gynt, am iddo omedd iddo gael cenad i ganu carol yn amser y gwyliau. Yr wyf yn cofio yr edrychid ar aelodau yr eglwys yma, tua haner can' mlynedd yn ol, fel hen Lanwyr parchus; hynod lym dros eu trefniadau a'u ffurfiau, ond yn bur sychlyd. Nid oeddynt yn plygu fawr gyda'r oes, pan oedd achos y Methodist- iaid yn dân ac yn lluched i gyd. Yr oedd cryn wrthwynebiad mewn rhai ohonynt i orfoleddu. Gadawodd amryw y lle, ac aethant at y Methodistiaid, yn amser Mr. Llwyd, mewn canlyniad i hyny. Yr oedd- ynt hwy am gael eu defodau, fel gwir Llan, yn barchus (respectable), heb roddi nemawr ryddid i'r teimladau dori dros y lestri. Meddylir mai at gapel Lon Swan y mae Thomas Edwards, o'r Nant, yn cyfeirio yn y llyfr a elwir Banau y Byd, pan y dywed:— Mi es yn mlaen ar fy nhraed, mi welwn gapel, lle yr oedd Presbyterian Dissenters mewn cyfran, a chanddynt athrawiaeth o deilwng dystiolaeth, nad oedd dim i'w ddyweyd ond eu bod yn lled sychlyd." O'r Beirniad" am 1863, gan y Parch. B. Williams, Canaan, pan yn weinidog yn Ninbych.
Dinbych. J. CHARLES.
JOHN RICHARDS, TREFGARN.
GANWYD ef yn agos i Gilsaint, yn mhlwyf Llanwinio, sir Gaerfyrddin, ar ddydd Nadolig, 1744. Efe oedd yr hynaf o chwech o blant. Cafodd beth ysgol pan yn blentyn. Yr oedd yn ugain mlwydd oed pan dderbyniwyd ef yn aelod yn Nhrelech; yn fuan