Prawfddarllenwyd y dudalen hon
'Roedd fel pe bae'r celfyddodau
Wedi drysu yn eu rhodau!
Myrddin:
"Mae dy glwy yn dyngedfenawl;
Mae o arfaeth arwybrenawl;
Nid oes llysiau yn Thesalia
Nac yn nghymoedd gwylltaf Gwalia;
"Nid oes iawn na dawn na dewin
Yn y Dwyrain na'r Gorllewin;
Nid oes enaint, saim nac eli
Eill am oesau wella'th weli.
"Deli'n mlaen o hyd i nychu,
Ond dy einioes heb wanychu,
Hyd yr elo'r Ddraig i huno
Cymru wedi ei chyfuno."
Y Bardd:
"Dyna syniad tlws barddonol,
Y mae hefyd yn wyddonol,"
Ebai fi, "sef fod dy glefyd
Yn anhwyldeb Cymru hefyd.
"Mae dy anaf yn gysgodol;
Mae dy niwed yn orfodol;
Gwella'th archoll cyn y gwellir
Archoll Cymru'n wir, nis gellir!