Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Am Dro i Erstalwm.djvu/24

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ar doriad y dydd a'i wyneb yn mawrhau y lloer fan draw!

XXII.

Felly gwelir fod y dychymyg sydd yn brif ysgogydd gwareiddiad, yn y gormodiaeth o hono yn rhwystr ac yn dramgwydd. O fewn terfynau ymarferol, y mae yn elfen werthfawr; yn y meddwdod o hono y mae yn wanychiad y meddwl ac yn ei wneyd yn ddiamcan yn ei weithrediadau. Parlysir y meddwl gan or-ddychymyg. Ffrwythau addfed rhamantiaeth yw diystyrwch o wirionedd a sylwedd, diogi, gwrthwynebiad i ymarferoldeb, amddifadrwydd o amcan buddiol. Gwna ddyn yn bendefig, i fyw ar ddychymyg gan gyfrif ei hun yn rhy urddasol i gyflawni gwaith a dyledswyddau gwareiddiad. Ai nid hyn gyfrifa fod ein cenedl hyd yma mor amddifad o gynyrchion gwareiddiad a diwylliant? Nid oes yn ein hanes bensaerniaeth, arluniaeth, cerfiaeth, gwyddor na chelf uwchraddol fel a gaed yn Groeg. Yr ydym hyd yn nod heddyw yn amddifad o'r pethau hyn ac yn amddifad o'r awydd i'w cynyrchu a'r chwaeth i'w gwerthfawrogi. Ni fu yn ein plith erioed ddim yn teilyngu yr enw Dinas. Ni fu genym erioed Brif Ddinas, ac felly ni fu yn ffynu yn ein plith awydd am undeb cenedlaethol, yr hyn sydd wrth wraidd sefydliad a gwneuthuriad cenedl.