Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Am Dro i Erstalwm.djvu/39

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ddaear drwy dwll neu agen, a'u bod o liw gwyrdd anferthol, annhebyg i ddim dynol welwyd erioed o'r blaen. Rhai o'r Rhufeiniaid a'r Groegiaid hefyd, a goelient iddynt dyfu allan o'r ddaear, megys bwyd llyffant!

VI.

Er yr addawa awdwr y "Drych" symud y niwl oddiar ffordd hanes haniad ein cenedl, syrth efe yn fuan i ganol hygoeledd dysgeidiaeth drwy syrthio i fagl Barddas. Wrth sylwi ar ganlyniadau cymysgiad y tafod-ieithoedd wedi helynt Twr Babel, ebai efe, "A phwy oedd yn siarad Cymraeg a dybiwch chwi y pryd hwnw ond Gomer, mab hynaf Japhet ap Noah, ap Lamech, ap Methusela, ap Enoc, ap Jared, ap Malaleel, ap Cainan, ap Enos, ap Seth, ap Adda, ap Duw." Er yr awgryma y frawddeg yna mai Cymro oedd Adda ei hun, barn yr awdwr oedd mai Hebraeg oedd yr iaith wreiddiol. Cydnebydd efe fod y Gymraeg o haniad Babelaidd, ond yn ddiweddarach cawn rai yn haeru i'r Gymraeg ragoesi a goroesi helynt y Twr. Dywed awdwr Cymreig "nad oedd y Cymry yn Babel ar adeg cymysgu yr ieithoedd, felly, ebe efe, y casgliad rhesymol yw fod iaith y Cymry yn iaith gynddiluwaidd, a thebyg, yn iaith Paradwys. Nid dychymyg yw hyn, ond tebygolrwydd."