XIY.
Y mae y duedd hon o eiddo y meddwl Cymreig i garu henafiaeth yn adgoffa y chwedl hono am ddyn yn y Gorllewin a drigai mewn congl anghysbell. Un diwrnod daeth teithiwr hyd at ei dyddyn, yr hwn a synai at anwybodaeth y gwr o ddygwyddiadau presenol a'i ddyddordeb byw yn amgylchiadau a helyntion y gorphenol. Ac ebai y teithiwr wrtho,
"Paham na chymerwch chwi bapyr newydd i'r ty?"
"Wel," ebe carwr yr amser gynt yn ol, "gadawodd fy nhaid ar ol i mi 'Ddrych y Prif Oesoedd,' a hen hanesion eraill yn cyraedd o ddyddiau Adda hyd Ficer Llanymddyfri, ac nid wyf eto wedi haner eu darllen."
XV.
Ond o gymharu yr hen dderwyddiaeth ag oes ramantus y Cymry a ffuantus adfywiad derwyddiaeth yn ystod y ddwy ganrif aethant heibio, cawn fod y gyntaf yn ddyddorol ac addysgiadol, a'r llall yn ddim amgen na lol wirion ac esgyrn sychion. Yr oedd cig a chroen ar y naill, tra y mae y llall wedi marw yn hir ac yn sawru o dranoeth marwolaeth. Ni wyr Sieffry ddim am achres coegdderwyddion y dyddiau diweddaf hyn. Dyfeisiadau diweddarach yw chwedl Gomer a llyfr cenedliad y Cymry o