Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Am Dro i Erstalwm.djvu/51

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ond cododd dau fab ei dwy chwaer anniolchgar, Margan a Cunedagius (y mae yr anniolchgar yn cenedlu rhai anniolchgar) yn ei herbyn, a rhoisant hi yn ngharchar, lle y cyflawnodd hi hunanladdiad, ac yna rhanodd y ddau yr holl deyrnas rhyngddynt. Rhai drwg am ranu ac anghytuno oedd teulu breninol y Cymry ar hyd yr oesau. Ar fyr, aeth y naill i drachwantu eiddo y llall, aeth yn rhyfel a gorfu Cunedagius. O linach Cunedagius, cododd brenin o'r enw Gorbogudo, ac iddo ef y ganwyd dau fab (gefeilliaid, gellid tybio wrth eu henwau) Ferrex a Porrex. Aeth yn ffrae rhwng y ddau (yn ol yr hen arfer Gymroaidd), a naddodd Porrex Ferrex, a lladdwyd Porrex gan ei fam. Dylynwyd hyn gan ryfel cartrefol, pum brenin yn teyrnasu ar yr un pryd, a'r Cymry yn dyfetha eu gilydd am eu bywyd. Dyma un o bechodau y genedl drwy yr oesau, sef ei gwamalwch, ei hoffder o ymrafaelio a'u gilydd, a thywallt gwaed eu gilydd; hyd yn nod y mab waed ei dad, a'r meibion waed eu gilydd. Mor wir yw ymadrodd awdwr y "Drych," sef fod Prydain lawer pryd yn ddim ond "annhrefn ac anras gwyllt." Yn ol hanes dychymygol Sieffry rhyfela a thywallt gwaed oedd prif ddifyrwch y bobl. Cyhoeddid dyn yn dywysog heddyw, a thorid ei ben dranoeth i roi. lle i rywun arall, a hwnw o fewn byr amser a