gai yr un dihenydd. Yr hwyaf ei gleddyf a'r direitiaf a ymchwyddai i awdurdod ac a gadwai reolaeth hyd oni ddeuai un trech nag ef a'i wthio ymaith. Hoff oeddynt o briodoli eu gorchfygiad i fradwyr, ond gwir achos eu hamddifadiad o'u gwlad a'u hannibyniaeth oedd eu rhyfelgarwch a'u hoffder o dywallt gwaed eu gilydd. Mor wir yw yr ymadroddion a roddir yn ngeneuau y Sermaniaid gan yr hanesydd, sef "Canys yn awr, ebe hwy, nid oes dim ond yr annhrefn wyllt dros wyneb yr holl wlad. Gadewch iddynt ladd eu gilydd oni flinant-ysgafna i gyd fydd ein gwaith ni y tro nesaf."
XXI
Mae'r Cymry'n hoff o gofio'n llon
Am Arthur enwog a'i Ford Gron,
Y brenin gwych a fu yn ddrych
I'w oes i drin ei moesau;
Fe aeth ei glod ar hyd y rhod,
Ac nid oedd ceiniach teyrn yn bod,
O decach bryd mewn gwlad ar fyd,
Ac ni fydd drwy yr oesau.
O fewn ei lys yr oedd pob dawn,
A dewrion o wroldeb llawn,
A'i goron hardd a hudai'r bardd
A'i deyrnas mor ardderchog!
Gwenhwyfar dlos fel gwridog ros
Eisteddai wrth ei glun yn glos,
Yn ddarlun byw o ras ei rhyw
Yn gydwedd brydferth serchog.