arall yno, sef ymneillduad y Brenin i ynys Afallon dan ei glwyf i aros rhyw adeg yn y dyfodol pan y daw o'i ymgilfa i oresgyn y Saeson ac adferyd meddiant o'i deyrnas. Yn yr hanes dychymygol ond gogoneddus ceir mwy o wir fawredd a bychanedd y meddwl a'r galon Gymroaidd nag yn holl gyfrolau cin llenyddiaeth, o hyny hyd yn awr. Er mai chwedl yw o'r dechreu i'w diwedd, eto y mae yn llawn o drysorau i'r meddwl craffus. Hon yw y chwedl fwyaf odidog a chyfoethog ddaeth i ben dyn erioed, ac ynddi megys cnewyllyn y ceir holl athroniaeth y meddwl a'r anianawd Cymreig. Yn hon y rhoes Sieffry i gadw dynged Prydain, ac ynddi yn mhlith pethau eraill gwelir adlewyrchiad o ffawd ac anffawd y Cymro.
XXIII.
Dywed rhai mai ffrwyth balchder oedd y chwedl Arthuraidd o'i dechreu i'w diwedd, ac adroddir ei dyfeisiad fel y canlyn. Yn nechreu y cyfnod Normanaidd yn Mhrydain, nid oedd gan y Prydeinwyr nemawr hanes o ddim bri. Yr oedd gan wledydd cyfandir Ewrop hanesion godidog, megys eiddo Groeg a Rhufain, yr Iuddewon, y Tyrciaid ac eraill, felly aeth i ben Sieffry ac eraill i lunio arwriaeth a gurai bob arwriaeth arall; ac ymddengys iddynt wneyd hyny, oblegid y mae y chwedl am Arthur a'i