Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Am Dro i Erstalwm.djvu/60

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ac wedi cludo ei fawrhydi iddo gosodwyd ef yn nghanol y rhianod a gogwyddodd yntau ei ben ar arffed un o honynt. Ac felly y rhwyfasant o'r lan. A Bedwyr a lefodd

"Fy arglwydd Arthur, beth a wnaf wedi dy fyned a'm gadael?"

Ac Arthur a'i hatebodd,

"Cymer y cysur goreu allot, oblegid ofer rhoi ymddiriedaeth ynof fi mwyach. Yr wyf yn myned i Ynys Afallon i wellhau fy nghlwyf, ac os na chlywi mwy oddiwrthyf, gweddia dros fy enaid."

Ac wylai a llefai y rhianod, fel yr oedd yn resyn eu clywed!

XXIX

Ymadawiad Arthur (Bedwyr a gan):
"Ffarwelia, gar; 'rwy'n gado'm dyrys wlad
Dros gefn y lli i'r ynys dawel gudd,
I fwrw'm blinder ac i wella'm clwy',
I ddychwel eto ryw ddyfodol ddydd;
Fan draw mae fy nymuniad mwyn yn son
Am ardal hoff lle mae yn haf o hyd;
Lle nad oes rhew yn deifio'r blodeu cain,
Na brad na thwyll yn drygu'r dyner fryd!"

Ac yna tawodd; ond ysgydwai'i law
Yn ffarwel dyner olaf yn y byd;
A chlywn y tair brenines yn y cwch
Yn wylo gan gofleidio'i gorff yn nghyd;