Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Am Dro i Erstalwm.djvu/7

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

AM DRO

I.

Dau enw rhyfedd yn nglyn a llenyddiaeth arwrol a rhamantus y Cymry yw y Brenin Arthur a Sieffry o Fynwy. Tua chanol y 12fed ganrif y cyflwynodd Sieffry Arthur i'r byd drwy ei "Historia Britonum," yn yr hon am y tro cyntaf y rhoddwyd hanes y Brenin digyffelyb ger bron Ewrop. Yr oedd Sieffry yn chwedleuwr heb ei fath, oblegid edrydd ei straeon mwyaf ofergoelus fel pe baent yn hanesion geirwir a chredadwy.

II.

Meddai ar y ddawn i wneyd i'r gau ymddangos yn wir; a chyda'r symlrwydd mwyaf swynol gallai enill y meddwl i goelio ei chwedlau heb y mesur lleiaf o ameuaeth. Yn ei ragymadrodd edrydd yn ei ddull chwedlonaidd am y modd damweiniol y dygwyddodd iddo ddyfod o hyd i Hanes Breninoedd Prydain, gan ddatgan ei syndod nad ysgrifenasai Gildas a Beda am Arthur. "Yn yr awduron prydferth hyn," ebe efe, "ni welais ddim am y breninoedd hyny a fucheddasant cyn Crist, nac am Arthur a llawer eraill