Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Am Dro i Erstalwm.djvu/70

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

XXXIX.

Am gan' mlynedd cyn dyfodiad y Normaniaid i Loegr a Chymru edrychir yn ofer am ofod o heddwch rhwng y Cymry a'u gilydd, yn yr hwn y meddylient am rywbeth amgenach na chwant am oresgyn a dyfetha eu gilydd. Yn Llywelyn I., a esgynodd orsedd Gwynedd yn 1000, cawn gyfuniad o ysbrydoedd Nissyen ac Efnissyen; ond dywed hanes i ni i Gymru fwynhau llwyddiant a llawnder o dan ei deyrnasiad. Yr oedd y cnydau yn doreithiog, y bobl yn amlhau, a'r anifeiliaid yn epiliog, fel nad oedd dyn tlawd yn y wlad. Lladdwyd ef, serch hyny, mewn ffrae rhyngddo a'i gydwladwyr. Gafaelwyd yn ei deyrnwialen gan berthynas iddo, a lladdwyd yntau gan Gruffydd ap Llywelyn. Yr oedd Gruffydd yn engreifftiol o'r tywysogion Cymreig-yn well ganddo ryfela na byw mewn tangnefedd. Wedi gorchfygu y Daniaid a ymosodent ar lanau Sir Fon, trodd, heb chwithryn o esgus, ar y Deheubarth, gan ei anrheithio a'r cledd ac a than yn ei flys i yru y Tywysog Hywel ap Edwy allan. Dychwelodd hwnw gyda Daniaid a Sacsoniaid i'w helpu. Dyfod i fewn i helpu y Cymry wnaeth y Sacsoniaid ar y cyntaf, ac aros i'w darostwng. Yr oedd y Sacsoniaid yn gyfrwysach na'r Cymry. I helpu Gwrtheyrn y daeth Hengist a Horsa a'u gwyr i Bryd-