Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Am Dro i Erstalwm.djvu/72

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

gryfhau a chadarnhau y wlad yn wleidyddol a threfniadol. Wedi marwolaeth y gorchfygwr mawr, cafodd Cymru ei hun yn ddiymadferth ac wrth drugaredd Harold. Onid rhyfeloedd Gruffydd a Harold barotodd y ffordd i oresgyniad Gwilym y Gorchfygwr a'i giwaid Normanaidd ladronllyd? Wrth orchfygu ei elynion gorchfygai Gruffydd ei wlad ei hun dan yr un.

XLI

Tywysog nodedig eto oedd Llywelyn ap Iorwerth ap Owen Gwynedd a elwir yn Llywelyn Fawr. Nid oedd y Cymry yn fanwl o barth i haniad cyfreithlon tywysog os y rhoddent eu bryd arno. Yr oedd cryn nifer o'r tywysogion yn blant gorthrech, a phan y cyfrifai eu tadau hwy yn etifeddion cyfreithlawn, gwrthdystiai yr Eglwys yn eu herbyn. Achosodd hyn lawer o dywallt gwaed. Iorwerth oedd etifedd cyfreithlon yr orsedd yn Ngwynedd, ond gan fod ei drwyn yn dwn, ni fynai y Cymry mo hono i reoli arnynt! Cymerwyd meddiant o'r orsedd gan Hywel, ei frawd anghyfreithlon o Wyddeles, ond lladdwyd ef gan Dafydd, ei frawd naturiol o fam arall. Am fod Llywelyn, mab Iorwerth, yn addawol, gwnaed ef yn frenin, a phriododd ferch orthrech i Frenin Lloegr, o'r enw Joan. Cododd deyrnas Cymru yn uchel fel y