XLIII
Wedi hir heddwch, peth rhyfedd iawn yn hanes y Cymry, cawn Owain Glyndwr o herwydd cam iddo ef yn bersonol, yn codi gwrthryfel, ac yn gorchfygu y Saeson mewn llawer o frwydrau, hyd enill Cymru yn ol am rai blynyddau, ond gorfu i Owain roi i fyny yn y diwedd ar ol ei holl wroniaeth a barodd gymaint o helbul a thrafferth i'r Saeson fel yr aethant i goelio mai dewin oedd gan mor wyrthiol y cai yr uchaf arnynt. Oferedd fu yr ymgais odidog hon, ac achos dystryw a galar dirfawr drwy Gymru. Ond yr ydym yn agoshau at uniad sylweddol ac ymarferol Cymru a Lloegr drwy ddyrchafiad Harri VII., wyr Owain Tudur a'r Frenines Cathrin, yr hon wedi claddu ei chydwedd, Harri V., a syrthiodd i gariad ag Owain, i'r orsedd, yr hyn a brawf fel y dywedai y chwedl nad marw oedd ysbryd Arthur, eithr y deuai eilwaith yn frenin (rex quondam, rexque futurus). Yn Harri VII. a'i fab Harri VIII., cawn wir nodwedd y Brenin Arthur, oblegid fel y lluchiodd Arthur haerllugrwydd Rhufain yn ol i'w gwyneb, yr un modd y taflodd Harri ymhoniaeth y Babaeth allan o Brydain. Yn nwylaw y ddau Harri ac Elizabeth y gwelwn Galedfwlch, sef cleddyf dysglaer Arthur. Ar faes Bosworth, gwelir ysbryd