byr ap Madawc ap Locrin ap Brutus, yr hwn oedd y cyntaf i feddianu Prydain. Felly esgynodd Harri ei orsedd drwy ddysgleirdeb ei gledd a godidowgrwydd ei linach. "Gadewch i'r cleddyf hiraf brofi y pwnc," ebai Arthur pan yn ymbarotoi i ymosod ar Rhufain, a pha gleddyf hirach nag achres Harri?
XLV.
Wedi i'r Cymry a'r Saeson ddyfod wyneb yn wyneb ac i ymgydnabyddu a'u gilydd gwelsant nad oedd y naill na'r llall mor ddrwg ag yr arferent goelio; fel y dywed un awdwr Cymreig yn hapus iawn. Gwelwyd nad Hengist oedd pob Sais, ac nad Rhys Gyrch oedd pob Cymro; a diogel genym fod llawenydd yn mhlith angelion pan y daeth y Cymro a'r Sais i adnabyddiaeth well a'u gilydd ac i heddwch; ac yn arbenig pan y daeth y Cymry i dangnefedd a hwy eu hunain.
XLVI
Beth bynag ddywedir am Harri VIII., ei deyrnasiad ef fu yn gyfrwng i uno Cymru a Lloegr dan yr un drefn, drwy yr hon yr estynwyd i drigolion y Dywysogaeth yr un breintiau ag a fwynhaai deiliaid Lloegr; a chydag uniad bendigedig Cymru a Lloegr rhoddwyd