Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Am Dro i Erstalwm.djvu/78

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

terfyn tragwyddol ar hen arfer y Cymry o ymladd yn eu plith eu hunain; a phwy all ddweyd y budd annhraethol fu hyny i ni fel pobl? Heddwch y brenin yn Nghymru fu y fendith fwyaf ddaeth i'r bobl yn nesaf at y Diwygiad Protestanaidd a chyfieithiad yr Ysgrythyr Lan i'r Gymraeg. Rhanwyd Cymru o newydd yn siroedd, yn lle yn fan dywysogaethau fel drwy yr oesau gynt, a gosodwyd cyfreithiau teyrnasol i reoli yn lle yr hen annhrefn dylwythol. Rhoddwyd diwedd ar unbenaeth anghyfrifol y tywysogion ymrafaelgar, a darostyngwyd hwythau i'r un gyfraith genedlaethol. Anfonodd y Cymry erfyniad at y Brenin, a geiriwyd yr erfyniad hwn, fel y tybir, gan Syr John Price, o'r Priordy, Aberhonddu. Yn rhywfodd y pryd hwnw gadawyd Sir Fynwy allan o gymanfa y siroedd Cymreig, ond y mae wedi glynu wrthynt ar hyd yr oesau, ac ni fyn ei chyfrif ond gyda deuddeg llwyth Gomer. Yn rhagymadrodd y gyfraith uchod, cyfeirir at yr afreolaeth a'r annibendod, yr anghytundeb, yr ymraniad, yr ymrafael, yr ymbleidio a'r terfysg sydd yn nodweddiadol o wledydd mandywysogol, a dadgenir bwriad y Brenin fel penarglwydd y cyfan i ddarostwng yr oll i drefn cyfraith a gwybodaeth, gan ddifodi pob gwahaniaeth arfer a defod. gythryblus, a dwyn y bobl i undeb a chydgord