Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Am Dro i Erstalwm.djvu/81

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

awr galwai Penri ar ei ferch i'w gwneyd yn un yn grefyddol ac efengylaidd. Yr oedd eisieu yr efengyl a'r Beibl yn Gymraeg yno, braint i gwblhau y fraint a roes Harri iddi. Am aflonyddu ar hun yr Eglwys gysglyd cymerwyd Penri i'r ddalfa a dyoddefodd angeu bradwr, yn Mai, 1593. Yn 1620 cyhoeddwyd y Beibl, yn benaf o waith William Morgan, y Cymro wnaeth fwyaf o bawb dros y Gymraeg. Ond nid oedd hyn yn ddigon; yr oedd yn rhaid ei gael i ddwylaw y Cymry, a chael y Cymry i fedru ei ddarllen a'i ddeall. Nid yn unig yr oedd Gwyr yr Allweddau wedi cloi y Beibl, eithr hefyd wedi cloi meddwl y bobl y tu ol i fyllt anwybodaeth ac ofergoeliaeth. John Penri oedd un o'r cyntaf i gael ei gyneu gan dan yr efengyl yn y Beibl Cymraeg, ac aeth yn ynfyd fel Paul am gyhoeddi hono i'r genedl Gymreig. Cred Penri oedd nas gallai offeiriad na phregethai fyth fod yn weinidog da i Grist. Heresi annyoddefol a melldigedig y diwygiwr Cymreig gwerthfawr hwn oedd fod eisieu goleuo Cymru! Yr oedd Penri gan gymaint ei awydd i oleuo ei bobl yn ddioed fel canwyll wedi ei goleuo ac yn llosgi y ddau ben iddi. Llofruddiwyd ef gan Wyr yr Allweddau.