Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Am Dro i Erstalwm.djvu/83

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Er i Grist eu siarsio i agor
Dorau'r nefoedd, nid eu cloi!
 
Rhodient gydag agoriadau
Etifeddiaeth werthfawr Duw;
Cloisent ddysg a chloisent oleu,
Cloesent ddoniau o bob rhyw;
Cloisent yr Ysgrythyr ddwyfol
Mewn Groeg, Lladin a Hebraeg,
Yn lle gwneyd i'r afon lifo
Drwy holl Gymru yn Gymraeg!

Ond y bobloedd gan wir newyn
A chan syched nerthol ryw,
A dorasant gloiau'r Eglwys,
Er meddianu doniau Duw;
Allan eto ffrydiai'r ffynon
Nes cynyddu'n afon rydd,
Gan ddyfrhau holl feusydd Cymru
O Gaergybi i Gaerdydd!

L

Curwyd wrth y drysau yn egniol gan Penri, ond torwyd hwy i fewn gan y Diwygwyr yn Nghymru yn y 18fed ganrif, sef Griffith Jones, Daniel Rowland, Hywel Harris, William Williams, Peter Williams, Charles o'r Bala, a llu eraill. Aeth yn chwyldroad ffyrnig am agoriad bastiliau Cymru. Carchar-dorwyr oedd y Diwygwyr, a gadawsant garcharau meddyliol eu gwlad heb ddor gyfan ar yr un o honynt. Gwnaent Wyr yr Allweddau yn wawd ac yn