watwar. Rhoddasant ddrws agored yn Nghymru nas gall neb ei gau. Ond brwydr ofnadwy ymladdodd ein tadau i ryddhau Cymru! Y pryd hwnw yr oedd y wlad fel y dywed Bunyan yn ei "Daith y Pererin," mewn cyflwr rhyfedd o lygredig; "y rhai oedd ag ysbryd yr efengyl a gras Duw yn eu calonau yn y carcharau, a chefnogwyr gau grefydd yn y dafarn." Ond aeth yr Ysgrythyr yn drech na holl byrth uffern y wladwriaeth a'r Eglwys.
LI
Yn yr ymdrech hon y daw y Beibl Cymraeg allan yn Allu Duw, fel y dywedai Paul fod yr efengyl. Yn y man y'i cyfieithiwyd rhagaddawai ddymchwelyd yr hen drefn. Gwyddai y Diafol ei allu, a thyna paham y rhoes efe yn nghalonau y Pabyddion a'r offeiriadaeth i'w guddio. Trodd y Beibl yn ffynonell fawr o wefr i adfywio Cymru drwyddi draw fel "power house" yn yr oruchwyliaeth drydanol. Aeth Cymru yn llawn o "dynamos" neu wefrgistiau efengylaidd i redeg y newyddion da o lawenydd mawr i bob plwyf a chymydogaeth a chyneu goleu yn mhob lle. Nid oedd son o'r braidd am ddim ond Gallu yr Efengyl. Aeth y Beibl fel yn weithfa udgyrn, oblegid aeth miloedd i chwythu udgyrn yr efengyl fel o ddialedd am