Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Am Dro i Erstalwm.djvu/85

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

lofruddio yr udgornwr cyntaf, sef John Penri. Aeth Cymru yn llawn amaethwyr efengylaidd yn aredig pob maes, hyd yn nod i fewn i fynwentydd yr Eglwys. Cyn bo hir, nid oedd maes gwyllt yn y wlad. Yn aml gwelid yr aradrwr a gwaed y merthyr yn dyferu i lawr ei aeliau, ond deuai yr Hauwr ar ei ol, ac aeth y wlad oedd gynt fel anial i flodeuo fel gardd! Cafwyd fod yr hen Feibl Cymraeg hefyd, yn gerddgist, oblegid yn fuan aeth y wlad yn llawn Nid cynt y dechreuodd yr amaethwyr Efengylaidd aredig a llyfnu nag y dechreuodd y Perganiedydd o Bantycelyn dynu y caniadau mwyaf hudol allan o hono. Druan o Gymru cyn y Diwygiad, hyd iddi ddechreu cael ei goleuo a dysg y Beibl! emynau.

LII

Ychydig o les wnaeth yr hen dywysogion Cymreig i Gymru. Cawsant hi yn baganaidd, a gadawsant hi yn agos yn yr un cyflwr. Yn Anerchiad Ficer Prichard ceir hanes gresynus o gyflwr moesol, crefyddol ac addysgol y bobl. Wedi cyfieithu y Beibl i'r Gymraeg, ceir fod y Cymry mewn tywyllwch ac anwybodaeth dygn: