foddog a gwrthnysig sydd hyd heddyw am annibyniaeth i'r Cymry, am ryddhad o dan iau y Saeson, er nad yw hyny namyn dychymyg a choel. Bob cyfle ga y rhai hyn danodant i'r Saeson eu hen greulonderau tuag at y Cymry, a cheisiant genym goelio mai y Sais yw y dyn gwaethaf ar lawr daear Duw. Y teimlad Saisgasaol hwn oedd wrth wraidd yr awydd dyeithr am sefydlu teyrnas Gymreig yn nghanol rhyw bobl anwaraidd, tebyg i'r weriniaeth Americanaidd, lle ni fyddai ond Cymry, yr iaith Gymraeg, arferion a defion Cymreig, heb un Sais yn beiddio dyfod o fewn canoedd o filldiroedd i fod yn swyddog yno!
LV.
Cymerodd y teimlad gwrthnysig hwn ffurf gynyrfus tua haner can mlynedd yn ol, ac arwr y mudiad a'r cyffro oedd Michael Jones y Bala. Ynddo ef yr adgyfododd hen anianawd ddiddiwyg y Cymro gynt. Meddai ar ysbryd Cymroaidd yr oesau gynt, ac aflonyddai yn ei fynwes ddofn a Brythonaidd gas at y Sais, yr hwn iddo ef oedd yn llawn o frad Hengist. Yr oedd meddwl am Sais yn ei ffyrnigo i'w waelod, ac ymddygai yn anhywaith dan deyrnas a ddygai yr enw o "English." Yr unig ffordd i ddianc o dan iau a baner Lloegr fyddai sefydlu teyrnas fawr Gymreig, ac awd ati i'w chychwyn yn