Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Am dro i Fadagascar.djvu/10

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

uwchben eu tai y mae'n ganol ddydd iddynt. Wedi iddo ddechrau cipio i mewn trwy'r drws dyna hi yn un o'r gloch a phan fo'n machlud bydd yn chwech o'r gloch yn y prynhawn. A dyna ddiwrnod Madagascar—o chwech o'r gloch hyd chwech o'r gloch, ac y mae bron yr un hyd drwy'r flwyddyn.

Yr amser poethaf o'r flwyddyn yw oddeutu'r Nadolig. Mor wahanol yw hyn yn eich gwlad chwi ynte? Yr adeg honno byddwch chwi yn disgwyl gweled eira ac efallai rhew ar y dŵr. Yr wyf yn siwr y bydd yn ddigon oer i wneud tân yn angenrheidiol i'ch cynhesu yn eich cartrefi.

Ond yma ceir haul yn disgleirio ar hyd a lled y wlad ac nid yw'r brodorion erioed wedi gweled eira na rhew ar ddŵr, ac nid oes byth angen tân arnynt i'w cynhesu yn eu cartrefi.

A dyma wahaniaeth mawr arall rhwng yma a Chymru.

Yng Nghymru, fel y gwyddoch, fe geir pedwar tymor. Yma nid oes ond dau dymor yn y flwyddyn sef y tymor sych a'r tymor gwlyb, a'r naill a'r llall ohonynt yn parhau am chwe' mis. Y tymor sych a ddaw rhwng Ebrill a Medi yw'r gaeaf, a'r pryd hwnnw bydd y gwres yn ogystal a'r sychter yn troi'r tyfiant ar y bryniau yn llwytgoch, a pheri i'r ddaear fod yn galed o dan draed. Y mae'r ynys y tymor hwn fel byd marw, neb yn gweithio yn y caeau na dim yn tyfu ar y planfeydd.

Edrychwch! Y mae'r bryniau ar dân, tân fan hyn a thân fan draw, nes goleuo'r nos am filltiroedd oddi amgylch. Beth yw'r rheswm tybed? Ai rhywun â bwriad câs ganddo sydd wedi rhoi y tyfiant sych ar dân? Na, nid hynny ond paratoi y mae'r bobl ar gyfer y tymor gwlyb. Y mae'r tân i gyd o dan reolaeth fel nad oes berygl iddo gyrraedd pentrefi'r ardal.

Llosgi'r hen dyfiant a wnant ac yna pan ddaw'r glaw bydd tyfiant newydd yn egino yn lludw'r hen a bydd yn llawer melysach ac yn fwy moethus i'r anifeiliaid, sef yr ychen. Rhaid gofalu amdanynt hwy oherwydd dyna brif gyfoeth y bobl. Os ydych am wybod pa mor gyfoethog yw rhywun, na ofynwch faint o arian sydd gan neb yn y banc, ond faint o ychen sydd ganddo.

Erbyn hyn y mae'r tymor gwlyb wedi dechrau. Bydd yn parhau o ddiwedd Medi hyd ddechrau Ebrill, a dyna hâf Madagascar. Pair i'r byd marw i adfywio yn gyflym. Y