Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Am dro i Fadagascar.djvu/13

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

II. AR Y FFORDD.

YR ydym yn awr, wrth gwrs, ynghanol yr ynys. Y mae'r ffyrdd yn well a gallem ddisgwyl hynny gan ein bod yn ardal y brif dref.

Gadewch inni fyned am dro drwy'r ardal ac allan i'r wlad. Rhaid cael rhywbeth i'n cario oblegid y mae'r gwres yma hefyd yn ormod inni fedru cerdded am unrhyw bellter er nad ydyw agos mor boeth a phan oeddym wrth ymyl y môr. Ie, fe awn mewn un o'r cerbydau-llaw sydd mor gyffredin yma.

Clywch! Y mae'r brodor yn y fan acw yn galw 'Pws-pws, pws-pws!' Tybed ai galw ar y gath y mae? Nage, nid hynny. Dyna enw'r cerbyd-llaw sydd ganddo i'w hurio, ac y mae'n galw fel yna er mwyn ein gwahodd i hurio ei gerbyd.

Dyma fe inni a dau frodor cryf, un i arwain a'r llall i wthio o'r tu ôl. Tybed ai o'r Saesneg 'push' y cawsant yr enw? Efallai. Gadewch inni eistedd ynddo fel y gallant fynd â ni i'r cyfeiriad a ddywedais wrthynt.

Y maent yn awyddus i gychwyn, beth bynnag, fel y gwelwn oddi wrth eu dull heini o drin y cerbyd. Sut y maent yn gallu rhedeg ar ffordd mor arw, ffordd â chymaint o gerrig arni, a hwythau yn droednoeth? Y maent yn ddigon cyfarwydd. Y maent wedi arfer cymaint fel bod croen gwadnau eu traed wedi myned fel lledr.

Wele ni yn pasio nifer o geirt-ych ar y ffordd i'r farchnad. Y mae pâr o ychen i bob cart ond nid oes ond un llorp, a honno yn hongian wrth yr iau ar eu gyddfau. Fe welwch fod y brodor sydd yn arwain yn eistedd y tu ôl i'r ychen. Oddi yno, drwy roddi ambell dro i'w cynffonnau a'i tynnn hefyd yn awr ac yn y man, y mae'n ei cael i fynd fel ac i ble y mynno. Mor araf y symudant! Ie, dyna ddull y wlad fel y gallech ddisgwyl mewn gwlad mor boeth. Y mae'r bobl yn ogystal â'r ychen yn araf ond byddant yn siwr o gyrraedd y farchnad mewn pryd gan eu bod yn trefnu eu hamser ymlaen llaw a