Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Am dro i Fadagascar.djvu/16

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

III. MEWN PENTREF.

FE awn heddiw i dalu ymweliad ag un o bentrefi Madagascar. Dacw'r pentref yn sefyll ar ochr bryn gweddol uchel. Coch yw ei liw. Dyna un enw a roddir i Fadagascar: Yr Ynys Goch. Gelwir hi felly oherwydd mai coch yw lliw'r ddaear yn y rhan fwyaf o'r ynys a chan fod y tai yn y rhan— barth hwn ohoni wedi eu gwneuthur o'r pridd y maent hwythau hefyd o'r un lliw.

Pan syrth pelydrau'r haul wrth fachlud ar y tai gloewant fel marwor eirias yng nghesail y bryn. Y pryd hwnnw, o edrych arnynt yn groes i'r dyffryn, y maent yn brydferth iawn, ond ar ôl cyrraedd y pentref ychydig o brydferthwch a welir.

Tai bychan cwbl debyg i'w gilydd sydd yno a phopeth yn hynod gyffredin.

Dyma ni wedi cyrraedd y pentref, Gadewch inni fyned i mewn i un o'r tai. Nid yw'n arferiad i guro ar y drws ond yn hytrach i alw: 'Oes 'ma rywun i mewn?' a phan ddaw'r ateb nid yw ychwaith yn arferiad i fynd i mewn ar unwaith. Rhaid rhoddi peth amser i wraig y tŷ i osod pethau yn daclus cyn ein derbyn. Cedwir mat glân wedi ei rolio mewn congl o'r ystafell ac y mae'n disgwyl cael digon o amser i osod hwnnw ar y llawr beth bynnag. Dyma hi yn awr yn dod i'n croesawu. Dywed 'Mba mandrosoa!' (os gwelwch yn dda, dewch i mewn).

Rhaid inni beidio ag edrych i mewn i'r ystafell ar y llawr oherwydd yn y fan honno y cedwir y reis, basgedi, rhawiau, a phethau felly. Y mae'n ein harwain i fyny i'r ystafell uwchben. Mor syml yw'r ystafell! Mor ychydig o ddodrefn sydd ynddi—dim ond cadair neu ddwy a gwely ar bwys y mur—matiau cysgu ar y llawr sydd i'r plant—ac un ford. Nid fod angen y ford i fwyta oddi arni oblegid oddi ar fat i'r pwrpas ar y llawr y gwneir hynny. Dyma'r ystafell y mae'r teulu yn byw ynddi y dydd ac yn cysgu ynddi y nos. Fe welwch nad oes lle i dân yma. Dim ond tân i goginio sydd eisiau ac