Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Am dro i Fadagascar.djvu/18

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Gwelir un peth ar bwys bron pob pentref fel hwn, sef ffald—ychen. Dacw hi yn y fan draw—man ysgwâr wedi ei amgau a phorth i'r ychen i fyned i mewn ac allan ohoni. Yn y fan yna y cedwir yr ychen dros y nos.

Ceir hanes trist yn gysylltiedig a'r ffald-ychen. Yn yr amser gynt, cyn i'r cenhadon ddod i'r wlad, yr oedd gan y brodorion arferiad gwael a thruenus ynglŷn â'i plant oedd wedi eu geni, yn ôl eu cred gyfeiliornus, ar ddiwrnod y tybient oedd yn anlwcus. Arferent eu rhoi i farwolaeth a'r modd y gwnaent hynny oedd eu gadael ar drothwy'r ffald fel y byddai'r ychen yn damsang arnynt wrth iddynt fynd i mewn. Trueni meddwl fod miloedd o blant bach Madagascar wedi trengi wrth borth y ffald-ychen oherwydd y fath gred ffôl a thywyll.

Erbyn hyn y mae'r Efengyl wedi goleuo y bobl yn yr ardaloedd lle'r arferent wneuthur hynny. Y maent yn gwybod yn well erbyn heddiw. Felly y mae Iesu Grist, drwy Ei Efengyl, wedi profi Ei Hunan yn Gyfaill a Gwaredwr i blant bach Madagascar.