Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Am dro i Fadagascar.djvu/22

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Cyn dychwelyd fe awn i'r pentref bach gerllaw ynghanol y coed Mor fychan yw'r tai ynddo. Y maent wedi eu gwneuthur o bambŵ ac wedi eu toi â dail mawr 'palmwydden y teithiwr.' Gwelir felly fod y balmwydden honno yn gwneuthur cymwynas arall i ddyn. Ond er mor fach yw'r tai y maent yn ddigon mawr ar gyfer anghenion syml y bobl, i fyw ynddynt y dydd ac i gysgu ynddynt y nos—i gysgu os caniatâ gwybed y nos, y mosquitoes, iddynt wneud hynny. Weithiau ym min yr hwyr fe welir y rhieni a'r plant yn yswatio ar y ddaear y tu allan tra byddo'r cartref yn llenwi o fwg oddi wrth y tân a gyneuwyd ynddo. Yna pan fo'n llawn o'r mwg ânt i mewn a chysgu ynddo. Gyrr y mwg y gwybed bychan poenus hynny allan ac y mae'n well ganddynt ddioddef y mwg na chael eu poeni ar hyd y nos ganddynt.

Mor wag yw'r pentref. Ble mae'r bobl tybed? Digon tebyg eu bod, rai ohonynt beth bynnag, ar eu planfeydd ac eraill, efallai, yn chwilio am fêl gwyllt yn y goedwig. Eithr wele un drws yn agored. Awn i weld pwy sydd i mewn. Fe ddilynwn yr arferiad a galw o'r tu allan: 'Oes 'ma rywun i mewn.?'

Hen wraig sydd yn y tŷ ac fe ddywed wrthym mai ei dyletswydd hi yw cadw'r un tân yn y pentref rhag diffodd, fel y gallo'r trigolion pan ddychwelant i'w cartrefi gael cynnau ohono. Mewn lle mor gyntefig ni ellir cael 'matches' ac felly y mae'n bwysig i ofalu na ddiffoddo un tân o leiaf.

Pe digwyddai hynny, byddai'n rhaid syrthio'n ôl ar y modd sydd ganddynt i gynnau tân o'r newydd Gwneir hynny drwy rwbio darn o bren sych ar bren arall, ei droi yn gyflym yn wir, nes cael gwreichion i danio'r borfa sych neu rywbeth cyffelyb a osodwyd yn gyfleus at y pwrpas. Cymerai hynny lawer gormod o amser pan fo'r bobl yn dyheu am eu pryd o reis ar ôl gweithio drwy'r dydd yn y caeau.

Erbyn hyn, yr ydym ninnau hefyd yn teimlo fel cael tamaid o rywbeth i'w fwyta, ac felly fe ddychwelwn.

A dyma'r 'palanquins' yn aros i'n cludo'n ôl.