dŵr. Pan fo allan o'r llyn y mae'n cysgu yn yr haul poeth ar y graean neu'r borfa ar bwys. Weithiau yn y llyn ac weithiau allan ohono ar ei lan, dyna ei ddull ef o fyw.
Fe awn yn nes i'r tir ac efallai y medrwn ei weld. Rhaid inni gadw'n weddol dawel a rhaid i'r ddau frodor dynnu ar y rhwyfau mor ddistaw ag sy'n bosibl iddynt er mwyn peidio â'i ddeffro os digwydd iddo fod gerllaw.
Dacw fo yn y fan draw. Fe welwch ei fod bron yr un lliw â'r graean y mae'n gorwedd arno. 'R wy'n siŵr eich bod yn sylwi hefyd fod ei geg fawr yn agored. Dyna ei arfer pan fo'n cysgu ac ar ei bwys fe welwch fod dau neu dri o adar mawr. Weithiau byddant yn bwrw'i pigau hirion y tu mewn i'w geg agored ac yn ymborthi ar yr hyn a gânt yno—microbes' meddai'r rhai sy'n ceisio deall pethau o'r fath. Y mae'n ddigon bodlon i ganiatáu iddynt wneuthur hynny iddo ond pe byddai unrhyw aderyn arall yn mentro yn agos ato byddai'n ei ddifa ar unwaith. Ond y mae ar delerau da â'r adar hyn a dyna paham y gelwir hwy gan bobl glannau'r llyn yn 'Sakaizamboay' (cyfaill y crocodil).
Tybiaf eich bod am wybod beth yw bwyd y crocodil. Wel, bron pob creadur a ddaw o fewn cyrraedd iddo—yr ychen a ddaw i yfed o'r llyn, y moch sy'n chwilio am fwyd yn yr hesg, yr adar gwylltion ar y llyn ac weithiau wrth gwrs ambell i frodor na fu'n ddigon gwyliadwrus.
Y mae'n syndod bod creadur mor fawr wedi dod o wy nad yw'n llawer mwy ei faint na'r wy a gewch chwi i frecwast. Gesyd y crocodil ei hwyau yn y graean neu'r tywod a bydd gwres mawr yr haul yn eu deor. Dyna'r nyth y daw'r crocodiliaid bach ohono mewn amser.
Cystal inni fynd yn ôl hwyrach tra bo'r llyn yn dawel. Ar ôl canol dydd y mae'n dueddol i fod yn donnog iawn a byddai'n beryglus i fod arno mewn canŵ y pryd hwnnw.
Ar ein ffordd yn ôl fe awn heibio'r fan lle y mae'r liliau dŵr, Fe'i ceir y tu hwnt i'r ynys fechan fan draw. Sylwch mor egniol y mae'r ddau frodor yn rhwyfo. Y rheswm am hynny yw eu bod yn mynd am gartref. Teg edrych tuag adre,' meddent hwythau fel ninnau.
Wele ni wedi cyrraedd i gyffiniau'r liliau dŵr ac fe welwch fod rhan eang o'r llyn yn cael ei guddio ganddynt. Mor