Yr ydym wedi mwynhau yr olygfa. Fe awn i lawr yn awr i gael cipolwg ar yr amgueddfa os caniatâ yr un sy'n gofalu am y lle inni wneuthur hynny. Ydi, y mae'n fodlon iawn.

Y mae yma dri pheth yn arbennig yr hoffwn ichwi eu gweld. Dyma un ohonynt. Yr aderyn mwyaf a fu erioed. Canfyddwyd yr ysgerbwd hwn ohono ym Madagascar lle'r arferai fyw. Y mae'n anodd dychmygu bod un o'i faint erioed wedi byw. Diflannodd o fodolaeth gannoedd o flynyddoedd yn ôl, ond bu fyw mewn traddodiad. Cofiaf pan welodd pobl glannau'r llyn mawr long awyr uwchben y llyn am y tro cyntaf iddynt feddwl mai yr aderyn hwn ydoedd a rhyfedd eu hofn ar y pryd. Yr estrys yw'r aderyn mwyaf a welir heddiw, ond yr oedd hwn yn llawer mwy ei faint na'r estrys. Wele ei wy yn y fan yma ac fe welwch ei fod yn llawn cymaint ei faint â phêl droed. Fe hoffech wybod enw yfath aderyn. Y mae'n lled anodd i'w ynganu—aepyornis."
Yr ail beth yw y ddwy ddysgl fawr o arian yn y fan yma. Fe welwch eu bod i bob ymddangosiad yn union yr un fath. Y mae hanes truenus yn gysylltiedig â hwynt. Yn yr amser a fu eiddo'r frenhines greulon oeddynt. Ar y cychwyn un oedd ganddi ac yna gorchmynnodd i grefftwr mewn arian i wneuthur un arall hollol yr un fath. Gwnaeth y crefftwr ei orau, ond pan ddaeth â'i ddysgl i'r frenhines gwelodd ei llygaid craff a chreulon nad oeddynt yn berffaith yr un fath. Y tâl a gafodd am ei drafferth ac am wneuthur ei orau, druan ohono, oedd cael ei roi i farwolaeth.
Y mae'r trydydd peth yr hoffwn ichwi ei weld yn llawer mwy pleserus i edrych arno. Dyma fo, ac fe welwch fod cadwyn yn ei glymu wrth y ford y mae arni. Dengys hynny y cyfrifir ef yn werthfawr. Nid yw hynny'n rhyfedd o gwbl oblegid rhodd oddi wrth frenhines i frenhines ydoedd. Rhodd