Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Am dro i Fadagascar.djvu/32

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Rhyfedd y nifer mawr o umbrellas agored sydd i'w gweled. Mor brydferth y maent yn eu gwahanol liwiau dan belydrau'r haul. Pebyll ar ddull umbrella' ydynt, hawdd. i'w gosod a'i symud a hawdd hefyd i weld y nwyddau oddi danynt.

Ceir pob math o bethau yn y farchnad . . . ffrwythau, dillad, dodrefn, bwydydd, blodau, a llu o bethau bychan o bob lliw a llun, hen a newydd.

Tybed beth y mae'r hen ŵr â'r farf hir yn y fan yma yn ei wneud? Y mae ei ford yn llawn llysiau, powdr, ennaint, a phethau o'r fath. Gwerthu meddyginiaeth frodorol y mae ac efallai yr â rhai o'r pethau a werthir ganddo ymhell oddi yma, hyd yn oed i law'r 'witch—doctor,' i'w defnyddio ar yr eilunod.

Clywch! Clywais lais yn gweiddi Lleidr!' Y mae cynnwrf mawr yn y fan draw yn y farchnad. Y mae'n fwy na thebyg bod rhywun wedi lladrata rhywbeth. Gwae iddo os caiff ei ddal! Fe gaiff gosfa nad anghofia mohoni ond gobeithio y bydd yn wers iddo i beidio â lladrata mwyach.

Cyn gadael y farchnad fe ddylem brynu rhywbeth i gofio am ein ymweliad. Fe awn i'r tŷ mawr ynghanol y farchnad. Yno fe werthir pob math o bethau—gwaith llaw'r brodorion. Wele sachell wedi ei gwneuthur o groen crocodil. A dyma gerflun tlws o wraig frodorol, y llestr dŵr ar ei phen a'i baban ar ei chefn. Y mae'r ddau beth cystal â dim y medrwn eu cael i'w cadw i gofio am ein ymweliad a'r farchnad fawr ym Madagascar.