Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Am dro i Fadagascar.djvu/36

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

IX CREADURIAID GWYLLTION.

HEDDIW nid awn i unman. Fe arhoswn yn y tŷ a chawn sgwrsio am rai o'r creaduriaid gwylltion sydd i'w cael ym Madagascar. Yr ydym wedi cyfeirio eisoes at rai ohonynt, ond gwn yr hoffech glywed mwy amdanynt a chlywed am eraill hefyd.

Ni cheir yma'r anifeiliaid gwylltion mawr a pheryglus fel y llew, y teigr a'r llewpart, ac ni welir y sebra, yr eliffant na'r hippopotamus yma ychwaith. Yn Affrica y gwelir y rheini.

Y creadur casaf a'r mwyaf peryglus ar yr ynys yw'r crocodil. Profir hynny gan ddywediad y brodorion: Nid oes greadur mwy na'r crocodil,' hynny yw, mwy nerthol nag ef, ac hefyd, yn ôl eu syniad hwy, un sydd i'w ofni'n fwy. Ceir ef yn y llyn mawr, fel y dywedwyd, ac yn yr afonydd hefyd.

Pan fo rhywun eisiau croesi'r afon—nid oes pont i fyned drosti—yr arferiad yw aros ar lan yr afon nes bod eraill sydd hefyd am groesi yn dod ac i bawb fynd gyda'i gilydd. Wrth groesi curant wyneb yr afon yn chwyrn a chadwant gymaint o sŵn ag sy'n bosibl. Ceidw'r cynnwrf y crocodiliaid i ffwrdd a chroesant yn ddiogel. Y fath arferiad yw sail y ddihareb frodorol 'Ni ddifa'r crocodiliaid lawer o bobl yn croesi'r afon." Cyfystyr yw hynny a dweud: 'Mewn undeb y mae nerth.'

Ceir yn y goedwig greadur gwyllt o'r enw' fosa.' Y mae'n ddigon tebyg i gath ond yn fwy ei faint, ac y mae'n greadur ffyrnig iawn. Daw o'i wâl yn y nos a gwae'r pentref yr â iddo oblegid ymesyd ar yr ieir a'r hwyaid a'i difa er colled i'r brodorion. Ceir yn y goedwig hefyd foch gwyllt a'r hen enw ar Madagascar oedd: Ynys y moch gwyllt.' Y mae'n arferiad gan y bobl i'w hela ar nos olau leuad, ond y mae'n gryn orchest i ddal yr un ohonynt oblegid eu bod mor gyflym a ffyrnig.

Soniasom eisoes am y lemuriaid. Madagascar yw eu cartref a gellir galw'r ynys yn wlad y lemuriaid. Ceir tua