Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Am dro i Fadagascar.djvu/37

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon
Y Symudliw.

deugain o wahanol fathau ohonynt yn y goedwig. Y mae gan rai o'r brodorion ofn ofergoelus ohonynt oherwydd eu bod yn crwydro ar hyd a lled y goedwig yn y nos—fel y gwna'r ysbrydion drwg, meddent. Os digwydd iddynt ganfod corff marw un ohonynt ar eu llwybr drwy'r goedwig torrant fedd iddo a'i gladdu, yn fwy mewn ofn ohono nag o barch tuag ato.

Yn sicr gellir galw Madagascar yn wlad y symudliw (chameleon). Nid oes cynnifer o fathau ohono mewn unrhyw wlad arall. Creadur bach hollol ddiniwed a hynod o ddigrif i edrych arno ydyw. O ran ei gorff y mae'n ddigon tebyg i'r lysard, ond y mae ei symudiad mor araf ag yw'r lysard o gyflym. Y mae hynny oherwydd bod ei bedair troed fel pedair llaw ganddo i gydio yn hytrach nag i gerdded arnynt. Treulia ei amser ar y planhigion neu ar y Ilwyni. Ei fwyd yw'r pryfed, gloynnod byw, chwilod, a phethau o'r fath ac y mae'r modd y deil hwynt yn ddiddorol dros ben. Cydia yn dynn yn y planhigyn a thry ei liw fel yr ymddengys yn rhan ohono. Gwêl i bob cyfeiriad heb symud ei ben ac yna erys a disgwyl. O dipyn i beth daw gloyn byw ar flodeuyn o fewn cyrraedd ei dafod—tafod sydd mor hir â'i gorff ac mor denau â llinyn.