Ar ei flaen y mae math o glud. Megis saeth yr â i gyfeiriad y blodeuyn ac mewn amrantiad diflana'r gloyn byw i'w geg!
Rhyfeddol yw ei allu i newid ei liw, ond i bobl Madagascar ei lygaid rhyfedd a aeth a'i sylw. Gall weled i fyny ac i lawr o'i flaen neu o'i ôl, i unrhyw gyfeiriad yr un pryd, gan hynny eu dihareb: 'Gwnewch fel y symudliw, edrychwch o'ch blaen a gwelwch o'ch ôl.' Cyfystyr yw hynny a dweud: 'Byddwch yn wyliadwrus.'
Ceir llawer gwahanol fathau o bryfed copyn ar yr ynys, rhai ohonynt yn llawer mwy eu maint na'r rhai a welir yn eich gwlad chwi. Yn fynych gwelir eu gwe ar frigau'r coed a rhwng y tai ac y mae'n ddigon cryf i beri magli aderyn a ddigwyddo hedfan iddo. Y mae rhai ohonynt yn wenwynig a chyn hyn profodd un gno yn farwol i frodor ac anifail.
Y mae'r morgrug gwynion sydd ym Madagascar yn ddinistriol iawn. Gwnant eu dinistr heb yn wybod i neb, o bosibl dan lawr yr ystafell. Un diwrnod hwyrach pan fo un o'r teulu yn croesi'r ystafell fe â ei droed yn sydyn drwy'r llawr. Ar ôl chwilio'r achos gwêl fod y morgrug gwynion wedi bwyta'r coed fel nad oes namyn y plisgyn yn aros.
Ond llawer mwy lluosog a llawer gwaeth na'r morgrug gwynion yw'r mosquitoes' a geir ar hyd a lled yr ynys. Y maent mor fychan â gwybed yr hâf ond y mae'i pigiad yn boenus a gwae yr hwn nad oes moddion ganddo i amddiffyn ei hunan rhagddynt—rhwyd dros y gwely fel rheol. Daw i lawr yn y bore â'i wyneb wedi chwyddo i gymaint ddwywaith ei faint. A gwaeth na'r pigiad yw'r dolur a elwir 'malaria a ddaw mewn canlyniad iddo.
Beth am yr adar meddech? Y mae'r adar yn brydferth eu gwisg ond cyffredin yw eu cân ac nid fel yr adar yng Nghymru. Ceir yr ehedydd yma hefyd ond wrth esgyn i fyny pair gwres mawr yr haul iddo fod yn rhy ddiog i byncio fel y gwna'r ehedydd yn eich gwlad chwi.
Gwelir yn aml aderyn cyffelyb i aderyn y tô, ond gyda hyn o wahaniaeth—y mae'n newid ei gôt yn y tymor gwlyb o fod yn llwyd i fod yn goch drosto i gyd. Y pryd hwnnw y mae'n hynod o brydferth, ond er hardded ei wisg lleidr ydyw, ac y mae'n angenrheidiol i wylio'r hâd yn y caeau rhagddo. Ystyrir hyn yn waith i fechgyn a hen ddynion.