Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Am dro i Fadagascar.djvu/42

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Tri pryd y dydd a gânt, yn y bore, ganol dydd a min hwyr. Yn y bore, pryd ysgafn, ganol dydd, pryd trymach a min hwyr y pryd mawr ac ar ei ôl, mynd i gysgu, oni ddigwydd ei bod yn noson loergan braf. Y nosweithiau hynny cânt eu denu allan o'i tai—y bobl mewn oed i glebran, y bobl ieuanc i ddawnsio a chanu, a'r plant i chwarae.

Y brodor a'i bal.

Syml dros ben ydyw bywyd y bobl a golyga hynny fod llai o waith yn y cartref. Ychydig o lestri sydd i'w golchi ac nid oes ond un ystafell i'w chadw'n lân; dim sanau i'w trwsio a phethau o'r fath, ac felly y mae mam Kala fach yn fwy ffortunus na mam Morfudd fach!

Syml dros ben ydyw bywyd y bobl a golyga hynny fod llai o waith yn y cartref. Ychydig o lestri sydd i'w golchi ac nid oes ond un ystafell i'w chadw'n lân; dim sanau i'w trwsio a phethau o'r fath, ac felly y mae mam Kala fach yn fwy ffortunus na mam Morfudd fach!

Ond beth am dad Kala? Y mae ganddo yntau hefyd ei waith i gadw'r cartref i fynd. A ef yn fore â'i bâl ar ei ysgwydd i'r cae reis neu i'w blanhigfa. Cymer ofal da o'r bâl â'r goes hir ac ymfalchia pan fydd yn ddisglair ei llafn oblegid bydd hynny yn arwydd ei fod yn weithiwr diwyd. Ar y llaw arall, y mae pâl a rhwd ar ei llafn yn warth oblegid dengys hynny fod ei pherchen yn ddyn dioglyd.

Efallai mai masnachwr yw tad Kala fach. Os felly, bydd ei siop fach yn y pentref. Ond ychydig nwyddau a fydd ganddo i'w gwerthu—sebon, halen, siwgr, teisennau reis, mintys poethion, etc. Pe digwyddai mai cigydd ydyw ni fyddai ei siop namyn bord o fetel y tu allan i'w dŷ a phan na fydd yn gwerthu caiff ei gadw'n brysur wrth geisio gyrru'r gwybed i ffwrdd. Y mae holl gŵn y pentref hefyd yn hoff o'r cigydd ac yno y byddant yn eistedd ar y ddaear gynnes gerllaw â'i llygaid yn graff ar ei ford. Disgwyliant gael tamaid ganddo yn awr ac yn y man.