Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Am dro i Fadagascar.djvu/46

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

ei gilydd, oblegid eu bod yn droednoeth ac yn defnyddio'r sawdl yn hytrach na blaen y troed.

Chwarae cicio.

Chwarae arall hoff gan y bechgyn yw chwarae ych.' Yr ych yw'r anifail y maent yn fwyaf cyfarwydd ag ef; yn aml ceir ef yn hanner gwyllt a dyna'r math a ddangosir yn eu chwarae. Dewisant un o'i plith i fod yn ych a bydd ganddo bren, fforchog ar un pen, a deil ef o flaen ei wyneb i fod yn ddau gorn iddo. A dechreua'r chwarae. Gan ymddangos yn ffyrnig ceisia'r 'ych' eu cornio a cheisiant hwythau ddianc o'i ffordd, gan waeddi: Daliwch ef! Rhaffwch ef! Taflwch ef i'r llawr! Ar yr un pryd ceisiant daflu y rhaff a fydd ganddynt o gylch ei wddf a'i ddal.

Mewn amser trechant ef a thaflant ef i'r llawr, clymant ei draed a'i ddwylo ac â darn o bren yn ffugio cyllell tyrr un ohonynt ef yn ddarnau. A diwedd y chwarae fydd i bob un ohonynt fynd gartref â charreg yn ei law gan ffugio mai darn o'r ych' ydyw!

Ond nid dysgu a chwarae yn unig a wna'r plant. Pan na fyddant yn yr ysgol y mae ganddynt ddyletswyddau i'w cyflawni. Cynorthwya'r merched eu mamau, drwy ofalu am y