Gwirwyd y dudalen hon
baban, cyrchu dŵr, a thasgau o'r fath, ac i'r bechgyn bydd dyletswyddau fel gwylio'r had rhag y lleidr bach â'r gót goch, neu gyrchu'r ychen a'i harwain i'r ffald.
Am blant ardal yr ysgolion, yr ysgol ddyddiol a'r ysgol Sul, y soniasom. Y mae lluoedd o blant eraill ym Madagascar sy'n llai ffortunus na hwynt—plant y pentrefi paganaidd nad oes ganddynt ysgol i fynd iddi na neb i ofalu'n iawn amdanynt ychwaith. Ond mwy amdanynt hwy yn nes ymlaen.