Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Am dro i Fadagascar.djvu/48

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

XII. MEWN PENTREF PAGANAIDD.

PNTREF paganaidd—tybiaf eich clywed yn gofyn: 'Pa fath le yw hwnnw?' Byddwch yn sôn amdano wrth ganu. Pentref â

.. Dim ond eilunod o'i cylch ymhob man
Neb i ddweud am Dduw...


Beth yw eilunod, tybed?

Dyma hanesyn diddorol a ddengys ichwi beth ydynt.

Un tro yr oedd geneth ieuanc ym Madagascar wedi colli ei ffordd. Daeth i dy bychan yn yr ardal unig honno a chafodd lety am y nos. Yr oedd gŵr y tŷ newydd ddyfod i mewn ac yr oedd wrthi'n brysur yn gweithio ar y pren a ddygodd gydag ef o'r goedwig gerllaw. Gosodai ei wraig y brigau mân ar y tân oedd ar yr aelwyd a llafuriai yntau'n ddygn ar y bonyn.

"Beth ydi hwnna i fod?" gofynodd yr eneth iddo.

'Ody' (eilun)," oedd ei ateb.

Drannoeth yn fore, wedi diolch am ei llety, aeth yr eneth i ffwrdd. Ymhen ysbaid ar ôl hynny, a hithau yn ei chartref yn y dref, daeth cyfeilles i ymweld â hi. Yr oedd ei chyfeilles yn Gristion ac yr oedd ei Beibl ganddi, fel arfer, mewn sachell fach. Cyn ymadael, wedi gofyn caniatâd i ddarllen iddi, fel y digwyddodd agorodd ei Beibl yn y man y gwelir y geiriau hyn: "... . a rhan ohono a lysg efe yn tân . . . A'r rhan arall yn dduw y gwna, yn ddelw gerfiedig iddo; efe a ymgryma iddo, ac a'i haddola, ac a weddia arno, ac a ddywed, Gwared fi; canys fy nuw ydwyt." (Eseia 44, 16—17). Ar unwaith cofiodd yr eneth yr hyn a welodd yn y llety y cafodd garedigrwydd ynddo.

"Llyfr rhyfedd ydi hwnna !" meddai wrth ei chyfeilles mewn syndod. "Y mae'n dweud yn hollol beth oedden nhw'n ei wneud ar y pryd... gosod rhan o'r pren yn y tân a gwneud duw i ymddiried ynddo o ran arall."

O'r funud honno bu ei chasineb at eilunod yn fawr a daeth yn Gristion selog a dioddefodd lawer dros ei chrefydd.