Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Am dro i Fadagascar.djvu/60

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

4.

Ychydig iawn o bethau i ddwyn pleser iddynt sydd gan y plant ym Madagascar o'i cymharu â chwi a phan gânt ddarlun bach neu rywbeth cyffelyb gan y cenhadwr y mae'n syndod mor falch y byddant ohono. Er mwyn ei gadw'n ddiogel rhoddant ef weithiau ar fur y cartref neu rhwng tudalennau'r Beibl os ydynt yn ddigon ffortunus i feddiannu un.

Kото.

Diwrnod mawr yn yr ysgol oedd y dydd Gwener hwnnw. Yr oeddynt yn cau dros wyliau'r Nadolig ac yr oedd pob un o'r plant i gael rhodd gan y genhades yr oedd gofal yr ysgol arni. Derbyniasai hi nifer o bethau oddi wrth gyfeillion caredig yng Nghymru i'w rhoi iddynt fel y gwelai orau. Pinnau ysgrifennu, penseli, peli, doliau, a nifer fawr o hen gardiau Nadolig.

Yr oedd y plant yno'n gwenu'n hapus gan edrych ymlaen yn awyddus i dderbyn o'r blychau llawn oedd erbyn hyn ar lwyfan yr ysgol. Ar ôl y canu gwresog, gweddi fer ac araith gan y genhades yn eu canmol am eu diwydrwydd yn ystod y tri mis cynt a chyfeiriad at y pethau oedd yno i'w rhannu ac o 'ble y daethant, aed ymlaen i rannu'r gwahanol anrhegion.

Yn gyntaf fe'i gosodwyd ar y bwrdd llydan oedd ar y llwyfan a rhyfedd fel y gloywai y dyrfa o lygaid wrth eu gweld yn cael eu tynnu o'r blychau. Wedi gorffen hynny, dechreuwyd eu rhannu ac yr oedd digon ar eu cyfer. Aeth y doliau wrth gwrs i'r merched, y peli i'r bechgyn, pinnau ysgrifennu a phenseli i bawb a allai ysgrifennu a'r cardiau Nadolig i'r rhai ieuengaf yno.

Cerdyn Nadolig a gafodd Koto bach ac arno yr oedd llun angylion, fel a welir yn fynych ar gardiau Nadolig. Yr oedd yn gerdyn gweddol fawr a'r angylion arno yn wyn braf, adenydd gwynion, wynebau gwynion, gwisgoedd gwynion a gwallt melyn-goch hardd yn cyrraedd i'w hysgwyddau!