Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Am dro i Fadagascar.djvu/61

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Yr oedd Koto mor falch o gael y fath rodd fel na allai dynnu ei lygaid oddi ar y darlun. Mor gynted ag yr oedd amser yr ysgol drosodd rhedodd gartref mor gyflym ag a allai i ddangos ei anrheg i'w fam a'i frawd, Nivo, oedd eto heb. ddechrau mynd i'r ysgol. Ar y pryd yr oedd ei dad ymhell oddi cartref a dyna lle'r oedd y tri yn edrych gyda syndod ar y cerdyn ac yn mwynhau hynny.

Wedi syllu llawer rhaid oedd ei osod ar fur yr unig ystafell oedd yn y tŷ a dyna lle'r oedd â'r angylion gwynion mor naturiol fel o'r bron gellid dychmygu eu gweld yn hedfan allan o'r cerdyn!

Daeth y pla i'r pentref ac i gartref Koto a bu Nivo ei frawd farw o'r haint.

A mawr oedd galar Koto ar ôl colli ei frawd bach! Gwnai ei fam ei gorau i'w gysuro gan ddweud wrtho fod Nivo bach wedi mynd at Iesu Grist, ei fod yn hapus ymhlith yr angylion, ac yn wir ei fod yn angel fel hwythau. Ond er pob ymgais i'w gysuro wylo yn aml a wnai Koto

Un diwrnod, a'i fam yn gwneud ymgais arall atebodd hi â llais siomedig, trist, gan bwyntio at y cerdyn ar y mur: "O mam! 'Drychwch! Gwyn, gwyn ydi'r angylion i gyd. Sut y gall Nivo fod yn angel?"

Ceisiodd ei fam egluro iddo orau gallai ond yr angylion gwynion ar y mur a welai Koto er pob eglurhad a roddai. Mewn ychydig ddyddiau daeth y genhades i'w gweld, i gydymdeimlo â hwynt ac i'w cysuro yn eu galar. Ar ôl ychydig o ymddiddan dywedodd y fam wrthi am ei hymgais i gysuro Koto, am ei methiant i wneud hynny, ac am ei syniad o'r angylion ar y mur.

"Y mae'r Nadolig yn ymyl. Nos Fercher nesaf bydd nifer o blant 'r ydw-i wedi ei paratoi yn perfformio 'Drama Nadolig yn yr ysgol. Dowch â Koto gyda-chi i'w gweld," meddai'r genhades wrth ymadael.

Daeth nos Fercher. Yr oedd ystafell yr ysgol yn llawn o bobl mewn oed a phlant ac yn eu plith, Koto a'i fam. Diffoddwyd y canhwyllau oedd yn hongian yn eu lleoedd ar y muriau. Tynnwyd y llenni yn ôl. Yr oedd y llwyfan yn olau, yn ddisglair hyfryd a phopeth yn drefnus i ddangos y Nadolig