fel y daeth gynt y Nadolig cyntaf i Fethlehem. Y llwyfan i gyd yn wyn gan eira—llwch calch oedd yr eira. Mewn congl hanner cuddiedig yr oedd y preseb. Gyferbyn gwelid y bugeiliaid yn gwylio'i defaid ac ar yr ochr bellaf—hanner y ffordd rhwng llawr y llwyfan a'r tô—yr angylion. Dwy eneth —a'r bwrdd yr oeddynt yn sefyll arno yn guddiedig—â'i adenydd gwynion ar led, eu gwallt cyrliog du yn cyrraedd at eu hysgwyddau a'i wynebau bron mor ddu a'i gwallt! Wedi ychydig eiliadau, digon o amser i bawb oedd yno i fodloni eu llygaid ar yr olygfa, rhoddwyd arwydd. Dechreuodd yr angylion ganu. Trefnodd y bugeiliaid eu mentyll a chyfeiriasant eu camau tua 'Bethlehem,' lle'r oedd y preseb. Yr oedd popeth mewn ysbryd gweddus a rhyfedd y dylanwad a wnaed ar y bobl. Dangosasant eu gwerthfawrogiad drwy glecian eu tafodau—dyna eu dull hwy o ddangos hynny ac nid drwy guro dwylo fel y gwnawn ni.
Ac yno yn rhywle yn yr ystafell yr oedd bachgen bach yn nesu, nesu mwy a mwy at ochr ei fam a'i ddau lygad du yn syllu ar yr angylion. Mewn llais crynedig gan lawenydd galwodd: "Mam! O mam! Y mae nhw'n ddu, yn ddu i gyd fel y ni!"
Ac felly y daeth cysur o'r diwedd i Koto bach!