5. Y BICELL.
Yn yr amser gynt ym Madagascar, ac nid mor bell yn ôl, pan gyhuddid person o droseddu yn erbyn y ddeddf drwy ladrata, niweidio neu ladd, neu rywbeth o'r fath arferai un o'r milwyr a ddanfonid i'w ddwyn yn garcharor gario picell arbennig fel arwydd eu bod yn dod yn enw'r frenhines.
Enw'r bicell oedd Tsi-tia-lainga.' Ystyr hynny yw, 'Casáu Celwydd' ac yr oedd yr enw yn gerfiedig ar ei llafn. Rhoddid enw'r bicell i'r un oedd yn ei chario, a gelwid y rhai a fyddai gydag ef hefyd yn Casáu Celwydd.'
Rhyfedd y dychryn a ddelai i'r bobl pan welant y milwyr yn dod, er iddynt wybod nad oeddynt yn dod i'w cyrchu hwy. Mewn llais isel ofnus sibrydent wrth ei gilydd: Y Casáu Celwydd! Y Casáu Celwydd!' Rhedent i'w tai i guddio neu os digwyddent fod allan ac yn rhywle'n agos i'r llwybr y delai'r milwyr arno byddent yn ffoi mor gyflym ac mor bell ag y gallent.
Yr oedd y Casáu Celwydd i'w gweled yn aml iawn yn amser y frenhines greulon y soniwyd amdani oherwydd ymhyfrydai hi mewn cosbi neu roi person i farwolaeth am y trosedd lleiaf. Yr oedd yn amser caled iawn i'r brodorion, yn enwedig i'r rhai oedd Gristionogion am nad oeddynt yn fodlon i addoli'r eilunod fel y gwnai hi ac eraill.
Yr oedd ei hysbiwyr ar hyd a lled y wlad yn chwilio am unrhyw arwydd a ddangosai bod hwn a hwn neu hon a hon yn Gristion. Weithiau byddent yn ffugio bod yn deithwyr diniwed yn galw am ddiferyn o ddwr i dorri eu syched. Dro arall byddent yn cuddio fin nos yn y tyfiant gwyllt ar bwys y tai i wrando, ac os gallent glywed emyn, darllen neu weddio yr oeddynt wrth eu bodd. Aent i ffwrdd ar unwaith i adrodd yr hanes ac mewn byr amser deuai'r milwyr â'r bicell i mofyn y bobl o'i cartrefi, gosod cadwyn ar eu dwylo a'i dwyn yn garcharorion, i gael eu barnu a'i condemnio i farwolaeth neu i dynged arall yr un mor druenus.
Un o'r rhai a garai Iesu Grist y pryd hwnnw oedd gŵr ieuanc o'r enw Faralahy a chymaint oedd ei gariad fel yr arferai ddangos llawer iawn o ddewrder a hyfdra i'w addoli bob