Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Am dro i Fadagascar.djvu/64

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

cyfle posibl, weithiau yn ei gartref ond yn amlach mewn ogof ychydig bellter o'i gartref. Gwaharddai y frenhines greulon bob addoli, mewn capel neu unrhyw fan arall—pob addoli ond addoli'r eilunod. Maes o law cyhuddwyd Faralahy o fod yn Gristion a thrueni yw meddwl fe'i cyhuddwyd gan un y gwnaeth ef gymwynas iddo—cyfaill dyledus yn troi yn fradwr! Daeth y milwyr a'r bicell yn fuan i'w gartref ond o'i gweled yr oedd yn berffaith ddiofn. Ni wnaeth ei osgo tawel namyn eu cynhyrfu'n fwy ac mewn llais awdurdodol cas gwaeddasant: "Edrych! Y Casáu Celwydd.' 'Rydym ni wedi dod yn enw'r frenhines i'th gymryd di'n garcharor. Bydd barod!"

Mewn llais araf a dewr atebodd hwynt: "Rydw—i'n yn barod, ond ni welaf yma rai sydd yn casáu celwydd. Yn hytrach 'rydych yn caru celwydd pan yn gwneud hyn i mi, am fy mod yn caru Iesu Grist."

Aed ag ef i ffwrdd—gosodwyd y cadwynau trymion a elwid 'Be ranomaso' (dagrau lawer) arno yn y carchar, a chondemniwyd ef i farwolaeth. Daeth y diwrnod i hynny gymryd lle. Yr oedd ar ei liniau yn gweddio, ei weddi olaf, daer, yn cyflwyno ei hunan i law Duw, pan ddisgynodd picell y lladdwr arno a'i drywanu i farwolaeth.

Felly y bu farw Faralahy, ail ferthyr Madagascar. Fel mae'r gorau pasiodd yr amser creulon hwnnw ac y mae'r bicell Casáu Celwydd' ar neges canmil gwell erbyn heddiw.

Gwelwch! Mor gyflym ydyw camrau y ddau frodor acw. Fel rheol araf iawn ydyw dull y brodorion o gerdded fel pe bai amser o ddim pwys iddynt. Nid yw hynny'n rhyfedd mewn gwlad mor boeth, ond y mae'r ddau acw ym mynd yn bur gyflym. Hefyd y maent, y naill o flaen y llall, yn cario cwdyn gweddol fawr ar bolyn yn groes i'w hysgwyddau. Dau frodor yn cario'r post i dref bell oddi yma ydynt ac y mae'n rhaid