yn brysur anghyffredin, yn enwedig y diwrnod hwnnw, yn chwilio a allwn ganfod ffordd i'r llong; ond gwelais na allwn ddisgwyl dim o'r fath, gan fod y tu mewn i'r llong wedi ei dagu'n llwyr â thywod. Fodd bynnag, penderfynais dynnu'n ddarnau o'r llong bopeth a allwn, gan gredu y byddai popeth a allwn ei gael ohoni o ryw ddefnydd i mi.
Mai 3—Dechreuais â'm llif, a thorrais ddarn o drawst drwodd, ac wedi i mi ei dorri drwodd, cliriais y tywod ymaith gystal ag y medrwn o'r ochr uchaf, ond gan i'r llanw ddyfod i mewn bu raid i mi roi'r gorau iddi am y tro.
Mai 4.—Euthum i bysgota, ond ni ddeliais yr un pysgodyn y gallwn fentro ei fwyta, nes yr oeddwn wedi blino ar fy sbort; pan oeddwn ar roi'r gorau iddi, deliais ddolffin ieuanc. Yr oeddwn wedi gwneud lein hir o edau raff, ond nid oedd gennyf ddim bachau; eto daliwn ddigon o bysgod yn aml,—gymaint ag a fedrwn eu bwyta; sychwn y rhain i gyd yn yr haul, a bwytawn hwynt yn sych.
Mai 24.—Bob dydd, hyd at y dydd hwn, gweithiais ar yr hen long, a chyda llafur caled tynnais gymaint o bethau'n rhydd â'r trosol, fel gyda'r llanw nesaf nofiodd amryw gasgiau ohoni, a dwy gist llongwr. Ond gan fod y gwynt yn chwythu o'r tir, ni ddaeth dim i'r lan y diwrnod hwnnw ond darnau o goed, a hogsied a chig moch Brazil ynddi, ond yr oedd y dŵr hallt a'r tywod wedi ei ddifetha.
Dilynais y gwaith hwn bob dydd hyd y 15 o Fehefin, ag eithrio'r amser angenrheidiol i gael