Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Anturiaethau Robinson Crusoe.djvu/101

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

bwyd; a threfnwn i hynny ddigwydd pan fyddai'r llanw i fyny, fel y byddwn yn barod wedi i'r trai fynd allan. Ac erbyn hyn yr oeddwn wedi cael digon o goed, a phlanciau, a haearn i adeiladu cwch helaeth, petaswn yn gwybod sut; hefyd yr oeddwn wedi cael, o dro i dro mewn mân ddarnau, bron ganpwys o blwm.

Mehefin 16.—Wrth fynd i lawr i lan y môr, cefais hyd i grwban mawr. Dyma'r cyntaf a welswn, ac ymddengys mai fy anffawd i oedd hynny, ac nid bai'r lle na phrinder, canys pe digwyddaswn fod yr ochr arall i'r ynys, gallaswn fod wedi cael cannoedd ohonynt bob dydd, fel y gwelais wedyn, ond hwyrach y buaswn wedi talu'n ddigon drud amdanynt.

Meh. 17.—Treuliais hwn i goginio'r crwban. Cefais drigain o wyau ynddo; ac i mi, yr adeg honno, yr oedd ei gig y mwyaf blasus a'r mwyaf dymunol a brofaswn yn fy mywyd, gan nad oeddwn wedi cael dim cig heblaw cig geifr ac adar, er pan leniais yn y lle arswydus hwn.

Meh. 18.—Bwrw glaw drwy'r dydd, a minnau'n aros i mewn. Tybiwn yr adeg hon fod y glaw i'w glywed yn oer, ac yr oeddwn braidd yn rhynllyd, peth anghyffredin yn y rhan honno.

Meh. 19.—Gwael iawn, a rhynllyd fel petasai'r tywydd yn oer.

Meh. 20.—Dim gorffwys drwy'r nos; poenau ofnadwy yn fy mhen, ac mewn twymyn.

Meh. 21.—Gwael iawn; wedi dychrynu bron hyd farw oherwydd ofnau am fy nghyflwr truenus o fod yn sâl a heb gymorth; gweddio ar Dduw am y tro cyntaf er adeg y storm tu allan i Hull;