ganddynt bron cyn gynted ag y bo drosodd; ac yr oedd gweddill fy oes innau felly. Hyd yn oed y ddaeargryn, er na allai dim byd fod yn fwy ofnadwy yn ei natur, na dim ddangos y Gallu anweledig yn fwy uniongyrchol, eto nid cynt yr oedd y braw cyntaf drosodd nag y diflannodd yr argraff a wnaethai hefyd.
Ond yn awr, pan ddechreuais fod yn sâl, a phan ddechreuodd fy ysbrydoedd suddo dan faich afiechyd cryf, a Natur wedi diffygio gan rym y clefyd, dechreuodd fy nghydwybod, a fuasai yng nghwsg cyhyd, ddihuno, a dechreuais edliw i mi fy hun orffennol fy mywyd.
"Yn awr," meddwn yn uchel, "y mae geiriau fy nhad wedi dod i ben; y mae cyfiawnder Duw wedi fy nal, ac nid oes gennyf neb i'm cynorthwyo nac i wrando arnaf. Trois yn glustfyddar i lais Rhagluniaeth a'm gosodasai'n drugarog mewn sefyllfa bywyd lle y gallaswn fod yn hapus ac yn esmwyth, ond ni welwn mo hynny fy hunan, ac ni fynnwn wybod gan fy rhieni fendith oedd yn hynny. Gadewais hwynt i alaru uwchben fy ffolineb, ac yn awr fe'm gadewir innau i alaru oherwydd canlyniadau hynny. Gwrthodais eu help a'u cynhorthwy, ac yn awr y mae gennyf anawsterau i'w gorchfygu, a heb ddim cynhorthwy, dim cysur, dim cyngor."
Yna llefais allan: "Arglwydd, bydd yn gymorth i mi, canys yr wyf mewn cyfyngder."
Dyma'r weddi gyntaf, os yw yn iawn i mi ei galw felly, a wnaethwn ers blynyddoedd. Ond dychwelaf at fy nyddlyfr.