PENNOD X.
EI ADFERIAD—CAEL CYSUR WRTH DDARLLEN YR YSGRYTHURAU—MYND AR DAITH I GANOL YR YNYS—CODI EI HAFOTY.
MEHEFIN 28.—Gan fy mod wedi fy iacháu ryw ychydig drwy'r cwsg a gawswn, a'r ffit wedi cilio'n llwyr, codais; eto tybiwn y buasai ffit o'r cryd yn dod eilwaith drannoeth, a dyma'r amser i mi gael rhywbeth i'm hadfywio ac i'm cynnal pan fyddwn yn sâl. A'r peth cyntaf a wneuthum oedd llenwi costrel fawr â dŵr, a'i gosod ar y bwrdd yng nghyrraedd fy ngwely; ac i dynnu ymaith ias y dŵr, rhoddais tua chwarter peint o rum ynddo a chymysgais hwynt ynghyd. Yna cymerais ddarn o gig gafr, a rhostiais ef ar y marwor, ond ni allwn fwyta ond ychydig iawn. Cerddais o amgylch, ond yr oeddwn yn wan iawn, ac yn brudd a digalon iawn oherwydd fy nghyflwr truenus, ac yn arswydo rhag i'r clefyd fy aildaro drannoeth. Yn y nos gwneuthum swper o dri ŵy crwban a rostiais yn y lludw; a dyma'r pryd cyntaf i mi ofyn bendith Duw arno, hyd y gallwn gofio, yn fy mywyd.
Yn awr, gan fod ofn i'm hanhwyldeb ddychwelyd yn peri arswyd i mi, trawodd i'm meddwl na chymer y Brasiliaid ddim ffisig heblaw eu tybaco at bob anhwyldeb bron; ac yr oedd gennyf rolyn